Digwyddiad:Chwedlau a Chreaduriaid y Pwll Glo

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Archebu Tocynnau 

Ymunwch â'n Storïwr Goruwchnaturiol yn ei fwthyn clyd i fwynhau chwedlau gwerin hynafol am fwystfilod pyllau glo Cymru. 

Dewch i ddysgu am y Tylwyth Teg cyfriniol gyda straeon am y Coblynau chwilfrydig a'r Cawr Glo barus. 

Wedi'r straeon swyngyfareddol, rhowch gynnig ar greu Map o Chwedlau Gwerin Cymru, gan ddysgu am fôr-forynion drygionus, llyffantod hynafol, baeddod melltigedig a dreigiau, wrth gwrs! 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae’r sesiynau archebu ymlaen llaw adrodd straeon yn 45 munud o hyd. 

Oherwydd prinder lle, dim ond un berson na fydd yn cymryd rhan gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. 

Gallwch gwblhau eich Map o Chwedlau Gwerin Cymru unrhyw bryd rhwng 11yb a 4yp.

Nid oes angen tocyn ar bobl nad ydynt yn cymryd rhan ond ni fyddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft. 

Rhaid gadael pramiau y tu allan.

Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. Caniatewch hyd at 15 munud i gerdded o faes parcio/prif adeilad yr Amgueddfa. 

Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. 

Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £5 y diwrnod am barcio. 

Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu. 

Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn

Byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch archeb ar adeg archebu.

Gwybodaeth

28 a 30 Hydref 2024, 11yb-4yp
Pris £6.50
Addasrwydd 3+
Archebu lle Archebu ymlaen llaw

Chwedlau a Chreaduriaid y Pwll Glo

Map o Chwedlau Gwerin Cymru

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Parcio

Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

Gwybodaeth cyffredinol a gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau