Cwrs:Cyrsiau Hanner Diwrnod: Cyflwyniad i Waith Gof – Llwy Garu
Cyfle arbennig i roi cynnig ar y grefft hynafol hon yn Efail wreiddiol Big Pit, lle bu cenedlaethau o ofaint yn gwasanaethu’r pwll. Gan weithio dan arweiniad Len, Gof yr Amgueddfa, sydd â dros 50 mlynedd o brofiad o weithio fel Gof a gweithio dan ddaear, fe gewch chi greu Llwy Garu Fetel, gan ddwyn eich ysbrydoliaeth o’r hen draddodiad Cymreig.
Un tocyn sydd ar gael i’w brynu ar gyfer pob sesiwn am mai un llwy garu y gellid ei chreu ym mhob sesiwn. Trwy brynu’r tocyn gallwch fynychu fel cwpl er mwyn rhannu’r profiad unigryw hwn neu dewch ar eich pen eich hun i greu anrheg i’w thrysori i rywun annwyl.
Bydd ‘powlen’ y llwy garu yn cael eu creu ymlaen llaw gan Len, ac yn ystod eich sesiwn fe gewch gydweithio i greu'r galon ac i droelli'r llwy i’w siâp terfynol.
Bydd y sesiwn yn para hyd at 2 awr.
Gwybodaeth Ddiogelwch:
I gymryd rhan yn y cwrs, rhaid i chi wisgo dillad addas (wele isod) a dilyn cyfarwyddiadau’r gof ynghylch gweithio’n ddiogel yn yr efail.
Dylai pob dilledyn fod o ddeunydd naturiol, 100% cotwm os yn bosib.
Dylid gwisgo llewys hir er mwyn gorchuddio’r breichiau
Dylai’r trowsus fod yn ddigon llac i orchuddio top eich esgidiau. (Dim ond trowsus hyd llawn y dylid ei wisgo).
Mae esgidiau diogelwch yn hanfodol – rhaid i chi eu darparu.
Darperir sbectol ddiogelwch – mae’n rhaid gwisgo hon gydol eich amser yn yr Efail. Darperir ffedog ledr hefyd.
Os na fydd cyfarwyddiadau’r gof yn cael eu dilyn, byddwn yn canslo’r sesiwn.
Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol:
Iaith:
Cynhelir y cwrs yn newis iaith yr hwylusydd, sef Saesneg
Oedran:
Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod dros 18 oed.
Hygyrchedd:
Er mwyn cyrraedd rhai o’n gofodau addysg, rhaid cerdded tua 5 munud o’r prif adeilad / maes parcio - cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu os hoffech drafod anghenion hygyrchedd.
Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.
Cliciwch isod i gofrestru ar gyfer y rhestr bostio a’r rhestr aros ar gyfer ein cyrsiau fel eich bod yn cael eich hysbysu pan gyhoeddir cyrsiau newydd neu pan ddaw llefydd yn rhydd ar gyrsiau llawn.
Ymunwch â ni | Amgueddfa Cymru
Cymerwch olwg ar rai o gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales
Gwybodaeth
Tocynnau
14 February 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
10:00 | Gweld Tocynnau |
13:00 | Gweld Tocynnau |