Digwyddiad:Cymdeithas Casglwyr Lampau Glowyr – ‘Cyfarfod Bach’ a Sgwrs
Mae Ffair Gasglu Cymdeithas Casglwyr Lampau Glowyr, y ‘Cyfarfod Bach’ yn dod i Big Pit!
Ymunwch â ni am y digwyddiad am ddim hwn, lle bydd cyfle i gyfnewid lampau glowyr a chael cyngor gan gasglwyr eraill, a gwrando ar sgwrs gan Ceri Thompson, Curadur Big Pit: ‘Lampau Glowyr – Pegiau i Hongian Stori’.
Caiff Cymdeithas Casglwyr Lampau Glowyr, a sefydlwyd yn 2007, ei rhedeg fel menter nid-er-elw gan gasglwyr lampau glowyr ymroddedig. Nod y gymdeithas yw gwarchod y rhan hon o’n hanes glofaol ac economaidd ar gyfer y dyfodol.
Mae’r gymdeithas yn cynnal eu ‘Cyfarfod Mawr’ blynyddol bob Mehefin yng Nglofa Pleasley, ger Mansfield. Yn dilyn hyn, cynhelir y ‘Cyfarfod Bach’ bob mis Hydref mewn lleoliad glofaol gwahanol, ac mae’n bleser ei gynnal yn Big Pit eleni.
- Cynhelir y Cyfarfod Bach yn Ystafell Coity yn adeilad y Baddondai Pen Pwll, a’r sgwrs gyda Ceri Thompson am 11am yn Ystafell Kearsley drws nesaf.
Gwybodaeth
Lamp a ddinistriwyd yn nhrychineb Abercarn ym 1878.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd