Cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2016 Catalena Angele, 29 Ionawr 2016 - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru wedi'i ymestyn tan Ddydd Gwener 19 Chwefror 2016 Categori Newydd – Project Digidol Gorau!Bob blwyddyn bydd Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau projectau treftadaeth cenedlaethol. Caiff y gair ‘treftadaeth’ ei ddefnyddio yn ei ystyr ehangaf – i gynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau, diwylliant, byd gwaith, amaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celf a chwaraeon. Mae manylion llawn y gystadleuaeth i’w cael ymaCategori Project Digidol Newydd! Noddir gan Gasgliad y Werin Cymru Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan wych sy’n llawn ffotograffau diddorol, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon ynghylch hanes a threftadaeth Cymru a’i phobl. I Gystadlu yn y Categori Project Digidol: Dewiswch bwnc sy’n ymwneud â ‘Threftadaeth’ er mwyn cystadlu yng Nghystadleuaeth WSHI Gwnewch broject sy’n cynnwys deunydd digidol Uwchlwythwch eich project ar wefan CyW Gallech Ennill Gwobr i’ch ysgol! Am fwy o fanylion ewch i wefan Casgliad y Werin Cymru Cymorth a hyfforddiant ar ddefnyddio Casgliad y Werin Cymru ar gael AM DDIM!Cliciwch yma i ymgeisioRhaid gyrru eich ffurflen ymgeisio erbyn 19 Chwefror 2016. Bydd y projectau yn cael eu beirniadu rhwng 18 Ebrill a 6 Mai. Catalena Angele Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru Cysylltwch â Catalena Angele sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Jan Dennis 11 Mawrth 2016, 20:17 Loved working with various classes on some great projects with much success. Retired a year ago after 40 years teaching and really missing it. Have just discovered that my school has not entered this year. Would be happy to help in any way I can!!!!! Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru 22 Chwefror 2016, 09:27 Hi Stephanie - I will pass this on to our co-ordinator and get back to you via email, if that's ok. Many thanks for your enquiry.SaraDigital Team Stephanie Evans 20 Chwefror 2016, 12:50 Hi, is it too late to enter the competition? Our school won a prize last year and I have just realised the closing date was last Friday? Our school is Ffaldau Primary School, Bridgend. Thank you, Stephanie Evans