Hafan y Blog

Owain Glyndŵr a thrawst Sycharth

Dafydd Wiliam, 14 Medi 2016

Ar 16 Medi, 616 o flynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr yn ei lys yn Glyndyfrdwy. Pahaodd ei frwydr yn erbyn grym Lloegr rhwng 1400 ag 1409. Roedd ei gartref, Sycharth, yn gastell mwnt a beili Normanaidd yn Llansilin, Sir Ddinbych. Cyn y gwrthryfel, honnai y bardd Iolo Goch fod naw neuadd yn y llys, a bod to o lechi ar bob un. Ysgrifennodd ‘Mae’i lys ef i nef yn nes’. Ar y stad roedd llyn pysgod, perllan, gwinllan, ceffylau, ceirw, peunod, a dim ond y cwrw lleol gorau fyddai ei weithwyr yn yfed. Wedi darganfod Sycharth yn wag fe losgwyd y lle i’r llawr gan Harri o Fynwy (a goronwyd wedyn yn Harri V). Wedi hynny fe losgodd Glyndyfrdwy.

Yn 1927 cysylltodd Yr Aldramon Edward Hughes o Wrecsam â Syr Cyril Fox, pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a oedd newydd agor i’r cyhoedd. Yn ei lythyr honodd fod trawst mawr derw wedi cael ei ddarganfod 30 mlynedd ynghynt tra’n gwagio ffos Sycharth I’r perchennog, Syr Watkin Williams-Wynn. Symudwyd y trawst yn ofalus i Neuadd Llangedwyn gan y Foneddiges Williams-Wynn. Yn 1924 gofynnodd Y Aldramon Hughes os gallai ddefnyddio’r trawst yn Neuadd Goffa newydd Llansilin. Roedd y trawst yn rhy hir i’r pwrpas, felly fe lifiwyd darn o un pen, gwaith anodd iawn yn ôl y son. Rhoddwyd y darn a oedd ar ôl i’r Amgueddfa.

Glanhawyd y trawst yn ddiweddar fel y gellid tynnu lluniau ohono ac ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Doedd dim golwg o losg arno fel y disgwylid, ond fe all fod yn ddarn o’r bont dros y ffos na losgwyd i’r un raddfa. Mae yn 50cm o uchder, a 27cm x 36cm o drwch (20” x 11” x 14”). Mae y mortis sylweddol sydd i’w weld yn un ochr yn 27cm x 14cm (11” x 6”).

Achosodd yr arddangosfa gryn diddordeb, ac fe gysylltodd Richard Suggett o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gynnig mwy o wybodaeth. Rhai blynyddoedd ar ôl codi Neuadd Llansilin, tynnwyd trawst Sycharth o’r adeilad oherwydd pydredd, a rhoddwyd mewn sgip. Achubwyd y trawst gan Mr. Dick Hughes, perchennog garej lleol, a’i rhoi yn ôl i’r Neuadd rhai blynyddoedd wedyn. Mae gweddillion y trawst yn awr mewn cas gwydr, a bellach ond yn 75cm o hyd.

Mae gwaith cloddio archaeolegol yn Sycharth wedi darganfod neuadd 18 medr o hyd (43’), ond nid y naw a honnai Iolo Goch. Er mwyn cefnogi yr honiad taw darn o Sycharth yw’r trawst mae angen ceisio dyddio y pren. Wedi dweud hyn, nid yw pob darn o bren yn addas i’r dechneg o ddyddio drwy dendrocronoleg, ac ar ôl i’r lluniau gael ei archwilio, ymddengys efallai na fydd yr un o’r darnau yn addas at eu dyddio drwy’r dull hwn.  

 

Dafydd Wiliam

Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.