Digideiddio'r Stiwt
10 Mawrth 2017
,Ym Medi 2017 bydd Institiwt y Gweithwyr Oakdale yn dathlu ei gan-mlwyddiant. Wedi ei adeiladu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mi roedd unwaith yn ganolbwynt gymdeithasol bwysig i drigolion pentref Oakdale. Symudwyd yr adeilad i’r Amgueddfa yn 1989 ac i nodi penblwydd yr adeilad eleni, mae’r Amgueddfa wedi lawnsio prosiect #Oakdale100. Bwriad y prosiect yw ail-ddehongli’r adeilad a’i ddod yn fyw unwaith eto gyda lleisiau’r gymuned.
Fel rhan o’r gwaith paratoi, mae staff yr Amgueddfa wedi ail-ymweld ag archifau’r adeilad, gan dynnu ynghyd ffotograffau, cyfweliadau hanes llafar a gwrthrychau perthnasol. Dwi wedi bod yn edrych ar y casgliad ffotograffau yn benodol. Gyda chymorth yr Adran Ffotograffiaeth, rydym wedi digideiddio cannoedd o ddelweddau a oedd gynt ar gael ar ffurf negatifau yn unig. Mae’r ffotograffau hyn yn dangos ystod y digwyddiadau ar gweithgareddau a oedd yn cael eu cynnal yn y Stiwt – o ymweliad y Tywysog Albert yn 1920 i berfformiadau dramatig y 50au. Maen nhw hefyd yn dogfennu pensaerniaeth yr adaeilad a manylion yr ystafelloedd mewnol. Fy hoff lun i yw hwnnw o’r bachgen yn ei arddegau yn pori silffoedd y llyfrgell.
Yn ogystal â digideiddio’r deunydd sydd eisoes yng nghasgliad yr Amgueddfa, rydym hefyd wedi bod yn brysur yn ymgysylltu gyda’r gymuned yn Oakdale heddiw. Llynedd cynhaliwyd gweithdy galw-heibio yn y pentref i annog trigolion yr ardal i rannu storiau ac i sganio eu ffotograffau ar gyfer archif yr Amgueddfa a Casgliad y Werin.
Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi agor tudalen Facebook ar gyfer y prosiect ac mae’r ymateb wedi bod yn anghygoel! Mae llu o bobl wedi cyfrannu eu hatgofion, gadael sylwadau a rhannu delweddau ar y dudalen. Yn ddi-os, mae Facebook yn adnodd gwych i ail-gysylltu gyda’r gymuned.
Os oes gennych unrhyw storiau neu ffotograffau sy’n gysylltiedig â Stiwt Oakdale, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau i weld unrhyw ffotograffau o bartion neu gigs yn y Stiwt yn ystod y 1960au-80au.
sylw - (1)