Wyt ti’n un gwael am gasglu pethau?
4 Awst 2017
,Dyma un o’r storfeydd rhyfedd a rhyfeddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae’n llawn dop o wrthrychau. Rydyn ni’n dal i gasglu pethau newydd, ond rhaid i ni ddewis a dethol beth i’w gadw. Does dim digon o le i bopeth!
Mae pob math o bethau i’w canfod mewn storfa o hanes cymdeithasol, o goes glec i gloc tad-cu.
Ar ei hymweliad cyntaf â’r stôr, cafodd un o’r merched ei rhybuddio i wylio rhag y mantrap. Jôc dda, meddyliodd hi. Ond na, mae mantrap yn llechu ym mhen un coridor tywyll!
Rydw i wedi bod yn ymwybodol ers amser bod y mwyafrif helaeth o gasgliadau amgueddfeydd yn cuddio mewn storfeydd, a taw dim ond cyfran fach sydd i’w gweld yn yr orielau. Doeddwn i ddim yn sylweddoli gwir raddau hyn tan i fi ddechrau gweithio yma.
O’r 5 miliwn wrthrychau sydd yng ngofal y saith amgueddfa; o geir clasurol, i garreg leuad, paentiadau byd-enwog, cadwyni caethweision a thoiled cyhoeddus; faint o wrthrychau sydd yn cael eu harddangos?
Dim ond 0.2% o gasgliadau Amgueddfa Cymru sydd yn cael eu harddangos.
Os ydych chi am weld gwrthrych penodol yn un o’r amgueddfeydd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i arddangos gyntaf. Gallwch chi hefyd wneud apwyntiad i weld gwrthrychau penodol. Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, rydyn ni wedi derbyn nawdd i ehangu’n cofnodion ac ychwanegu delweddau fydd i’w gweld ar Casgliadau Ar-lein yn yr hydref. Cadwch lygad hefyd am deithiau tu ôl i’r llenni yn y storfeydd dan arweiniad ein curaduron a’n cadwraethwyr. Gall y rhain fod yn agoriad llygad!
Rydyn ni’n gofalu am y casgliadau drosoch chi. Gobeithio y byddan nhw’n rhoi cymaint o bleser i chi ag i ni.
sylw - (4)
Thank you very much for your enquiry. I'm passing it on to our curatorial staff at St Fagans, who will get in touch with you as soon as possible by email.
Kind regards,
Marc
Digital Team
Hi there Claire
Thank you for your enquiry. I'm going to pass it on to the curator who is responsible for our textiles collections, so that she can get back to you by email. I know that she is currently working at the national Eisteddfod in north Wales at the moment, so she will be back in the office in the coming week or so to deal with your request.
Thanks again for getting in touch,
Sara
Digital Team
Is there a way of repairing it or could I donate it to you?
Maybe too fragile.I live in Newcastle but I will be visiting South Wales in September.
I'll try and attach a picture.
Regards,
Claire Cowley