Hafan y Blog

Wyneb yn wyneb â'r gorffennol - ailarddangos arch Rufeinig

Chris Owen, 28 Medi 2010

Un o'r arddangosfeydd mwyaf poblogaidd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yw'r arch garreg sy'n dal sgerbwd gŵr Rhufeinig. Mae'r arch hefyd yn dal gweddillion nwyddau claddu fyddai'n ddefnyddiol iddo yn y bywyd nesaf, yn cynnwys gwaelod dysgl siâl a darnau o botel wydr fyddai'n dal persawr neu eli.

Darganfuwyd yr arch ym 1995 ar safle mynwent Rufeinig ychydig y tu allan i Gaerllion. Mae'r fynwent bellach yn rhan o Gampws Caerllion Prifysgol Cymru Casnewydd. Mae wedi cael ei harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ers 2002, ond yn Haf 2010 dechreuwyd ar y gwaith o ailarddangos yr arch mewn modd fyddai'n adlewyrchiad gwell o'r gwreiddiol diolch i nawdd Cyfeillion Amgueddfa Cymru.

Mae'r arch wedi'i gwneud o flocyn solet o garreg Faddon ac yn dyddio o tua 200OC. Gan ei bod oddeutu 1800 mlwydd oed ni fyddai'r arch yn medru dal pwysau y caead gwreiddiol sydd mewn dau ddarn mawr. Mae ochrau a gwaelod yr arch yn cael eu hatgyfnerthu a bydd y caead yn gorwedd ar orchudd Persbecs gyda gofod fel eich bod yn gallu gweld y sgerbwd oddi mewn.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ganfod mwy am ein gŵr Rhufeinig oedd oddeutu 40 mlwydd oed pan fu farw. Diolch i nawdd yr Ymddiriedolaeth Ymchwil Rufeinig, caiff dadansoddiad Isotop ei gynnal ar ei ddannedd a ddylai ddangos ble cafodd ei fagu a pa fath o fwyd a fwytai. Byddwn hefyd yn ceisio ailadeiladu ei wyneb fel y gallwn beintio portread ohono gan ddefnyddio'r un technegau a deunyddiau a ddefnyddid gan y Rhufeiniaid.

Dilynwch y gwaith wrth iddo fynd rhagddo yn ystod y flwyddyn nesaf.

Ein nod yw cwblhau'r gwaith ailarddangos erbyn diwedd 2011 fel eich bod yn medru dod wyneb yn wyneb â'r gorffennol!

Cam 1

Coffin

Mae'r arch, y sgerbwd a'r nwyddau claddu, wedi cael eu harddangos ers 2002.

Ers hynny mae wedi dod yn un o arddangosiadau mwyaf poblogaidd yr oriel.

Cam 2

Discarded items

Roedd bylchau yn yr arch yn galluogi i bobl wthio pethau i mewn iddi.

Dyma rai o’r pethau a gafodd eu gadael, dim beth fyddai Rhufeiniwr am ei ddefnyddio yn y byd nesaf debyg iawn.

Cam 3

Work begins

Gwaith yn dechrau. Rhaid tynnu’r sgerbwd a’r nwyddau bedd yn gyntaf a’u storio’n ofalus.

Tra’u bod o olwg y cyhoedd bydd y sgerbwd yn cael ei brofi ymhellach i ganfod mwy am y gŵr yn yr arch.

Cam 4

Painting

Rhaid i bob deunydd modern a ychwanegir i wrthrych allu cael ei waredu. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i waredu gwaith cadwraeth heb achosi niwed i’r arteffact gwreiddiol.

Yma, mae mur y gellir ei waredu yn cael ei beintio ar yr arch. Bydd hyn yn gwahanu’r garreg wreiddiol a’r deunydd a ddefnyddir i lenwi’r bylchau a lefelu’r ymyl.

Cam 5

Painting

Roedd yn rhaid cyrraedd y mannau mwyaf lletchwith hyd yn oed!

Cam 6

Lid of the coffin

Rhaid i gaead yr arch orffwys ar arwyneb gwastad!

Yn anffodus mae mwyafrif ymyl wreiddiol yr arch wedi erydu, felly gyda chymorth sbwng, tâp â dwy ochr ludiog a chaead gwydr yr arddangosfa wreiddiol, gobeithiwn greu lefel newydd i ymyl yr arch.

Cam 7

Layers of foam

Gludwyd haenau o sbwng i’r caead gwydr gwastad. Pan cyrhaeddwyd rhan uchaf yr arch, defnyddiwyd hyn fel y lefel ar gyfer yr ymyl newydd.

Cam 8

Mixing up the fill material

Roedd y rhan nesaf yn llawer o hwyl...cymysgu’r deunydd llenwi.

Rhaid i’r deunydd hwn weithio fel pwti a setio’n galed wedi sychu. Mae’n rhaid iddo fod yn ddiogel i’w ddefnyddio yn yr oriel agored hefyd ac yn debyg mewn lliw a gwead i’r garreg Faddon wreiddiol.

Defnyddiwyd cyfuniad o glai sy’n sychu mewn aer, a thywod i atal crebachu ac i roi gwead gwell. Defnyddiwyd paent acrylig i’w liwio ac fel glud naturiol. Roedd y gwaith yma braidd yn anniben ac fe gymrodd hi beth amser i gael y gymysgedd yn gywir!

Cam 9

Filling the gaps

Pan oedd y gymysgedd yn barod llenwyd y bwlch rhwng y sbwng ac ymyl yr arch...

Cam 10

Filling the gaps

...gan ofalu peidio cael cymysgedd lenwi dros yr arch i gyd.

Cam 11

Filling odne

Mae’n edrych yn dda, gobeithio y bydd yn sychu heb grebachu gormod.

Mae’r lliw braidd yn olau ac nid yw mor euraid a’r garreg Faddon wreiddiol. Credwyd bod y garreg wedi dod o chwarel Rhufeinig i’r de o ddinas hynafol Caerfaddon. Mae’r garreg yn feddal ac yn hawdd i’w cherfio pan yn wlyb, ond yn sychu’n galed.

Cam 12

Inspecting the day's work

Arolygu gwaith y diwrnod! Gobeithio y bydd y llenwad yn wastad pan gaiff y gwydr a’r sbwng ei dynnu.

Cam 13

Side of the coffin

Mae’n rhaid llenwi’r bylchau yn ochr yr arch er mwyn atal pobl rhag cyffwrdd y sgerbwd pan gaiff ei ailarddangos.

Cam 14

Glass top and foam removed

Caiff y caead gwydr a’r sbwng eu tynnu gan ddatgelu’r ymyl newydd. Mae’r llenwad wedi sychu’n llawer goleuach na’r disgwyl felly bydd yn rhaid ei beintio er mwyn iddo asio’n well.

Bydd mwyafrif y llenwad yn cael ei guddio gan y caed sy’n ymestyn tu hwnt ac i lawr yr ochrau. Arferai’r ochr hon sy’n gorgyffwrdd orffwys ar gefnen a amgylchynai ymyl uchaf gwaelod yr arch.

Gellir gweld gweddillion y gefnen hon ar ochr dde’r llun ychydig islaw’r llenwad.

Cam 15

Coffin

Dadorchuddiwyd yr arch gan beiriant cloddio a’i torrodd yn sawl darn. Arbedwyd mwyafrif y darnau, ond cafodd un darn gymaint o niwed fel na ellid arbed y darnau.

Yn hytrach na llenwi’r bwlch i gau’r ochr, penderfynom osod ffenestr arsylwi fel y gallai ymwelwyr byrrach weld y sgerbwd y tu mewn hefyd.

Cam 16

Gallery

Mae’r arch yn aruthrol o drwm ac ni ellid ei symud o’r oriel yn ddiogel. Roedd yn rhaid i’r gwaith cadwraeth gael ei wneud yn yr oriel allai fod yn sialens ar brydiau.

Os ydych yn ein gweld ni yno yn ystod eich ymweliad, dewch draw i ddweud helo. Byddwn ni’n fwy na pharod i ateb cwestiynau am y project.

Chris Owen

Rheolwr Datblygu Digidol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.