Hanes yn y Teils
22 Awst 2017
,Ysbrydolwyd y stori hon gan gasgliadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Bu Bethan Thomas a Jacob Rendle yn gweithio gyda chwmni ffilm Gritty Realism i greu’r ffilm fer hon.
Fel rhan o’r broses buont yn edrych ar archaeoleg Rufeinig ac yn dysgu technegau animeiddio. Ariannwyd y project gan Gasgliad y Werin Cymru a chafodd ei drefnu gan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a thîm addysg Cymunedau’n Gyntaf Casnewydd.
Hanes yn y Teils/Tales in the Tiles from Gritty Realism Productions on Vimeo.
Er nad yw dim o’r stori hon yn wir cafodd ei hysbrydoli gan rai o’r gwrthrychau go iawn a adawyd ar ôl gan y Rhufeiniaid yng Nghaerllion – 2,000 o flynyddoedd yn ôl!
Er engraifft, mae gennym dystiolaeth fod milwr Rhufeinig, ci a chath wedi camu ar y teils clai wrth iddynt gael eu gosod.
Milwr Rhufeinig oedd Julius Valens, a bu fyw nes ei fod yn gant! Mae ei garreg fedd yn yr oriel. Hefyd, ôl troed milwr a’r deilsen siâp cath fyddai’r Rhufeiniaid yn ei rhoi ar flaen eu tai i gadw ysbrydion drwg draw.
Dewch i weld yr animeiddiad a'r gwrthrychau diddorol hyn yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru tan fis Medi 2017.