Minecraft eich Amgueddfa – hoff weithgaredd teuluol y cyfnod clo
22 Hydref 2020
,Mae Amgueddfa Cymru wedi ennill clod am ddarparu gweithgareddau llawn hwyl yn ystod y cyfnod clo yng Ngwobrau Cartref Amgueddfa Groesawgar Plant Mewn Amgueddfeydd.
Roedd yr amgueddfa yn un o bump a enillodd y wobr uchaf heddiw mewn seremoni wobrwyo ar-lein dan ofal yr wynebau cyfarwydd, Philip Mould a’r Athro Kate Williams.
Mae elusen Plant mewn Amgueddfeydd wedi cynnal ei Gwobrau Amgueddfa Groesawgar ers 15 mlynedd, gan gydnabod y lleoliadau treftadaeth mwyaf croesawgar i deuluoedd yn y DU. Eleni, fe grëwyd gwobr arbennig i gydnabod gwaith ac ymdrech rhyfeddol amgueddfeydd i addasu i’r cyfnod clo a pharhau i gefnogi teuluoedd. Dyma nhw’n gofyn i deuluoedd a sefydliadau rannu eu hoff weithgareddau cartref – ffilm, cwis, gêm, gweithdy crefft a llawer mwy!
Derbyniwyd dros 400 o enwebiadau o bob cwr o’r byd, ac ym mis Gorffennaf crëwyd rhestr fer o 26 amgueddfa gan banel o arbenigwyr. Dros yr haf bu teuluoedd yn profi’r gweithgareddau, a chyfunwyd eu hadborth a barn y panel arbenigwyr i ddewis enillwyr pob categori.
Amgueddfa Cymru enillodd wobr Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau am ein cystadleuaeth Minecraft dy Amgueddfa.
‘Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cydnabyddiaeth am y fenter! Roedd y gwaith a gynhyrchodd y plant yn rhagorol! Mae’n amlwg eu bod nhw wedi rhoi cymaint o ymdrech i greu eu hamgueddfeydd eu hunain, a defnyddio cymaint o sgiliau. Yn bwysicach fyth, roedd y plant i gyd yn dweud cymaint oedden nhw wedi mwynhau creu eu hamgueddfeydd, a’r beirniaid i gyd wedi mwynhau ymweld!’ Danielle Cowell - Pennaeth Dysgu Digidol Amgueddfa Cymru.
Er bod y gystadleuaeth wedi dod i ben, gallwch chi gymryd rhan o hyd a chreu amgueddfa eich hun yn Minecraft. Lawrlwythwch y pecyn adnoddau a rhannwch eich amgueddfeydd ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i bawb fwynhau.
Dadlwythwch becyn adnoddau yma.
Rhannwch eich creadigaethau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol - fel y gall eraill fwynhau!
Mae'r fideo isod yn dangos cofnodion gan ein holl gyfranogwyr ac yn tynnu sylw at y ceisiadau buddugol.
Gellir gweld ceisiadau unigol ar wefan Casgliad Y Werin.
Dywedodd Philip Mould, gwerthwr celf, darlledwr a Llywydd Plant Mewn Amgueddfeydd: ‘Mae’n bleser dathlu heddiw sut mae amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth wedi camu i’r adwy a dod â diwylliant at deuluoedd yn y cyfnod anodd hwn. Yr hyn sy’n gyffredin rhwng ein henillwyr i gyd yw eu bod wedi dod â’r gorau o’i hamgueddfeydd i gynulleidfaoedd adref. Mae’r projectau yma wedi helpu gyda dysgu adref, yn ogystal â chefnogi lles a helpu pawb i fwynhau gyda’i gilydd. Llongyfarchiadau mawr i’n henillwyr teilwng i gyd.’
Rhestr lawn o hoff weithgareddau teuluol y cyfnod clo:
Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau
Clod Uchel
· Ditchling Museum of Art + Craft – Virtual Museum Club
Enillydd
· Amgueddfa Cymru - Minecraft dy Amgueddfa
Ffilm Orau
Clod Uchel
· University Museum of Zoology, Cambridge - Zoology Live! Online Festival
Enillydd
· Cooper Gallery, Barnsley - Wow Wednesdays
Gweithgaredd Gwefan Gorau
Clod Uchel
· National Galleries Scotland – Home is Where the Art is
Enillydd
· National Videogame Museum, Sheffield – Create Your Own Pixel Art Character
Gweithgaredd Digidol Rhyngwladol Gorau
Clod Uchel
· Andy Warhol Museum, USA – Warhol Making It Videos
Enillydd
· The Glucksman, Republic of Ireland – Creativity at Home
Ymdrech Ychwanegol
Clod Uchel
· Colchester and Ipswich Museums – Museum From Home Activity Packs
· Seven Stories: The National Centre for Children’s Books, Newcastle Upon Tyne – Something to Smile About: Supporting Families in East Newcastle
Enillydd
· The Whitworth, Manchester – Still Parents