Arddangosfa Gobaith - Diweddariad y Flwyddyn Newydd!
6 Ionawr 2021
,Lansiodd Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol. Nod y project yw creu sgwariau lliw enfys 8” neu 20cm gan ddefnyddio hoff dechneg y crefftwr – gweu, ffeltio, gwehyddu neu grosio. Bydd y sgwariau wedyn yn cael eu rhoi at ei gilydd gan wirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru gan greu carthen enfys enfawr a gaiff ei arddangos yn yr Amgueddfa ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Yn dilyn yr arddangosfa caiff carthenni llai eu creu o’r garthen enfawr a’u rhoi i elusennau amrywiol.
Hoffem ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y project hyd yn hyn, mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ac rydym wedi derbyn dros 670 o sgwariau o bob cwr o’r wlad! Rydym yn ddiolchgar am bob sgwâr a dderbyniwn, ynghyd â’ch negeseuon caredig a dymuniadau gorau. Mae’n hyfryd clywed bod cynifer ohonoch wedi teimlo bod creu’r sgwariau hyn wedi helpu yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn. Er nad oes modd i ni gyfarfod, rydym yn un mewn ysbryd, gobaith a chymuned.
Aeres Ingram yw ein cyfrannwr mwyaf toreithiog ar hyn o bryd, mae hi wedi gwau 70 sgwâr ar gyfer y flanced! Wrth siarad am y prosiect, meddai:
"roedd gwau’r sgwariau ar gyfer y flanced enfys wedi fy helpu'n fawr yn ystod y cyfnod clo ac fe roddodd ymdeimlad o berthyn a chyflawniad i mi, gan wybod fy mod yn ymwneud â rhywbeth pwysig a hefyd helpu rhai mewn angen. Edrychaf ymlaen at weld y darnau wedi’u gwnïo gyda’i gilydd a’r flanced orffenedig."
Cafodd Arddangosfa Gobaith ei chynnwys yn Wythnos Addysg Oedolion a rhyddhawyd dau fideo o’r Grefftwraig Non Mitchell yn dangos sut i greu sgwâr wedi’i ffeltio a’i wehyddu. Os hoffech greu sgwar, gymrwch olwg ar rhain:
Rhannodd elusen Crisis (de Cymru), sy’n cefnogi pobl ddigartref, wybodaeth am Arddangosfa Gobaith ar eu tudalennau Facebook a chreu pecynnau yn cynnwys gwlân a chyfarwyddiadau i’w hanfon at ddefnyddwyr y gwasanaeth i’w helpu i gymryd rhan.
Lluniwyd y sgwariau hynod gain mewn lliwiau, arddulliau, pwythau, a chynlluniau amrywiol. Dyma hanes rhai o’r sgwariau a’u crefftwyr...
Crewyd y sgwâr hwn gan ein Gwirfoddolwr Gardd Susan Martin. Mae Susan wedi troellli edafedd ei hun a’i liwio’n naturiol. Mae’r lliwiau enfys yn dod o gymysgu glaslys, llysiau lliw a’r gwreiddrudd gwyllt â gwyn i greu effaith ysgafnach a brethynnog, gellir dod o hyd i’r holl blanhigion hyn yng Ngardd Lliwurau Amgueddfa Wlân Cymru. Derbyniodd Gardd Lliwurau Naturiol yr Amgueddfa Wobr Gymunedol y Faner Werdd sy’n newyddion arbennig! Mae rhagor o wybodaeth am yr Ardd Liwurau ar ein gwefan.
Lluniwyd y sgwâr hwn gan y Gwirfoddolwr Crefft Cristina gan ddefnyddio’r edafedd cyntaf a wnaed gan y Cynorthwyydd Amgueddfa, Stephen Williams, a’r crefftwyr dan hyfforddiant Richard Collins a James Whittall wrth iddynt ddysgu i droelli. Cyfrannodd ymwelwyr yn ogystal at greu’r edafedd, gan gynnwys menyw oedd heb droelli ers ugain mlynedd, plentyn tra byddar, â mam i aelod o staff.
Crëwyd y sgwâr hyfryd hwn gyda logo’r Amgueddfa gan Gynorthwyydd Oriel Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ruth Melton.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Gwirfoddolwyr Crefft yn ôl i’r Amgueddfa y flwyddyn yma a dechrau ar y gwaith o greu’r garthen. Cadwch lygad barcud ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Diolch i The Ashley Family Foundation a Sefydliad Cymunedol Cymru am gefnogaeth gyda’r prosiect.
Y dyddiad cau ar hyn o bryd ar gyfer cyfraniadau yw 31/03/2021. Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i gymryd rhan.
Diolch unwaith eto am eich holl gefnogaeth.
sylw - (1)
Marie Carson in Aberdare South Wales.