Blodau Bendigedig
25 Mawrth 2021
,Shwmae Cyfeillion y Gwanwyn!
Mae nifer ohonoch wedi yn sôn yn ddiweddar bod eich Bylbiau Bychan wedi blodeuo sy’n wych! Mae amser yn dod i ben i lanlwytho eich data blodeuo i’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion os nad ydych wedi yn barod. Y dyddiad cau yw dydd Gwener Ebrill 2ail, sydd hefyd yn Ddydd Gwener y Groglith felly gallwch fwynhau picen y Grog ar ôl lanlwytho’ch data! Sicrhewch fod eich data blodeuo wedi ei lanlwytho erbyn y dyddiad yma i sicrhau fod pob Cyfaill y Gwanwyn yn derbyn eu tystysgrif Gwyddonwyr Gwych!
Wyddoch chi fedrwch adael sylwad wrth lanlwytho eich data blodeuo a thywydd? Di wrth fy mod yn clywed am eich profiadau gofalu am eich Bylbiau Bychan felly plîs cadwch y sylwadau'n dod trwy’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion neu ar Drydar. Dyma ambell o’ch sylwadau o’r wythnosau diwethaf:
- “Ar ddiwrnodau heulog mae’r blodau crcoys yn agor fel sêr” – Dosbarth 2, Coastlands Primary.
- “Braf yw gweld sut mae’r blodyn yn cau wedi tywydd oer ac agor wrth i’r haul ddod allan!” – Amy, Stanford in the Vale Primary.
Arsylwadau arbennig Cyfeillion! Mae rhai blodau yn fregus a byddant yn cau i amddiffyn eu hun rhag y tywydd oer a all eu niweidio. Wrth i dymereddau codi maent yn “agor fel sêr!”
Mae Ysgol Henllys yn sicr wedi cael canlyniadau cennin Pedr cymysg:
- “Roedd fy un i yn dal iawn” - Aneurin
- “Roedd fy un i yn denau” - Emily
- “Roedd fy un i yn dda iawn nes bo’r gwynt yn ei dorri” - Oliver
O diar, mae’n flin gen i glywed hynny Oliver! Yn sicr fe gawsom ni gyd gwyntoedd cryf yn ddiweddar sydd yn gallu fod yn beryglus i gennin Pedr tal. Llwyddoch chi gyd dyfu blodau ac nid chi sydd ar fai.
- “Agorodd fy mwlb i heddiw ond mae rhywbeth wedi bwyta’r petalau. Mae nifer o’n bylbiau wedi eu dwgyd gan wiwerod yn ystod yr hydref a gwelsom ni rhai ohonynt yn gwneud ar ein camera nos!” – Alexandra, Livingston Village Primary School
Nid dyma’r tro cyntaf i mi glywed am ladron blewog yn dwyn bylbiau ac yn anffodus nid dyma’r unig sylwad o’r Cyfeillion yma yn sôn am hyn. Anghofiwn weithiau fod bylbiau a phlanhigion hefyd yn fwyd i greaduriaid eraill. Yr unig les yw eich bod wedi sicrhau pryd o fwyd i anifeiliaid llwglyd! Ni allaf gredu eich bod wedi ei ddal ar gamera – oes gennych lun allwch rannu?
- “Mae’n debyg fod ein bylbiau yn y ddaear wedi agor yn gyntaf ym mis Chwefror a rydant yn fwy o lawer na’r rhai wedi eu plannu ym mhotiau. Rydyn ni gyd wrth ein boddau yn gwneud y prosiect yma a rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i Riley (cyn-ddisgybl yr ysgol) am helpu Mrs. Finney gyda’r arsylwadau tywydd a glawiad yn ystod lockdown” - Mrs. Finney, Stanford in the Vale Primary School.
Arsylwad diddorol iawn - mae gan fylbiau sy’n tyfu yn y ddaear mwy o fwynau a gwagle i dyfu na bylbiau sy’n tyfu ym mhotiau felly rydant yn aml yn blodeuo’n gynt ac yn tyfu’n dalach os ydynt wedi eu cysgodi rhag y gwynt. Rydw i wrth fy modd clywed eich bod chi gyd wedi mwynhau gweithio ar y prosiect eleni ag am ymdrech wych gan Riley! Darllenaf eich holl sylwadau hyfryd ynglŷn â’r tywydd a garddio a diolch o galon am helpu Mrs. Finney gyda’r gwaith dros lockdown, rwyt yn Gyfaill y Gwanwyn anhygoel!
Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn anodd i bawb ond rydych chi gyd wedi gwneud gwaith anhygoel ac mae gweld gymaint o flodau hardd yn dystiolaeth o’ch holl waith caled. Diolch o galon unwaith eto Cyfeillion y Gwanwyn, athrawon a rhieni! Gobeithiwn agor ymgeision am Fylbiau’r Gwanwyn 2021 – 22 yn dilyn gwyliau’r Pasg, felly os ydych wedi mwynhau bod yn Gyfeillion eleni gewch chi gyfle gofalu am ragor o Fylbiau Bychan tymor nesaf!
Garddio Hapus!
Athro’r Ardd.
sylw - (1)