Project garddio yn parhau yn Ysgubor Fawr, Sain Ffagan
30 Hydref 2023
,Mae The Secret Garden yn broject garddwriaeth a hanes a ariennir gan Grant Gwirfoddoli Cymru CGGC. Rydym yn gweithio gydag oedolion ag Anableddau Dysgu a gwirfoddolwyr cymunedol i ddatblygu a gofalu am ardd fwthyn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi cyfranogwyr y project i ymchwilio i hanes yr ardd, bwthyn Ysgubor Fawr ar y safle a’i chyn-drigolion gan ddefnyddio archifau Sain Ffagan ac Archifau Morgannwg.
Mae dwy thema i broject yr Ardd Gudd. Mae'n broject garddio ac ymchwil hanesyddol. Rydym yn cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau garddio ymarferol yn ein gardd yn Sain Ffagan i ddysgu am a threialu technegau garddio o’r gorffennol, megis plannu at ddibenion meddyginiaethol neu lanhau. Bydd cyfranogwyr hefyd yn ymchwilio i’r ardd, y bwthyn a’i drigolion mewn partneriaeth ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ac Archifau Morgannwg.
Mae cyfranogwyr sy’n mynychu’r project yn gallu dysgu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, cydlynu a llawer mwy i helpu i’w cynorthwyo a’u cefnogi yn eu datblygiad personol. Mae amgylchedd gwaith diogel yn sicrhau bod cyfranogwyr yn gallu dysgu ar eu cyflymder eu hunain, pe bai hynny'n dysgu am arddwriaeth neu hanes! Mae'r project yn gallu siwtio eu hanghenion a chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u lles.
Mae ein gweithgareddau yn rhad ac am ddim, ac rydym yn annog unrhyw un i ymuno. Gall cyfranogwyr gymryd rhan naill ai yn yr elfen arddio neu hanes neu'r ddau os dymunant!
Ewch at wefan Innovate Trust i weld fwy am broject The Secret Garden, ac am sut i gymryd rhan - The Secret Garden | Innovate Trust (innovate-trust.org.uk).