Croeso nôl - Sgrinwyna 2024
1 Mawrth 2024
,Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
Rydyn ni’n falch iawn i lansio #sgrinwyna eleni ar ddiwrnod ein nawddsant. Mae hon yn flwyddyn arbennig gan ein bod hefyd yn dathlu’r 10fed flwyddyn i ni ffrydio yn fyw o’n sied wyna yn Sain Ffagan! Caiff Sgrinwyna ei redeg gan dîm bychan a diwyd a fydd yn ffrydio’r cyffro yn fyw o’n sied wyna ar 1-22 Mawrth rhwng 8am-8pm (GMT).
Mae dau o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, Howl a Varsha, hefyd yn ymuno â thîm Sgrinwyna eleni a bydd y ddau ohonynt yn cymryd eu tro yn rheoli’r camera. Maen nhw hefyd wrthi’n brysur yn ffilmio cynnwys y tu ôl i’r llen i chi ar gyfer Sgrinwyna+ a fydd yn cael ei rannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Cymru:
Facebook | Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Facebook | Amgueddfa Cymru[FR1] [ED2]
Instagram | Amgueddfa Cymru
X | Adran Addysgu Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n disgwyl cyfanswm o 492 o ŵyn gyda chyfradd wyna o 190% - mae’n argoeli i fod yn flwyddyn toreithiog! Un o’r prif testunau sgwrs i ni ar drothwy ein tymor wyna yw’r nifer y lluosrifau rydyn ni’n eu disgwyl yn dilyn y sganio ym mis Rhagfyr. Ar gyfartaledd, byddem yn disgwyl hyd at 10 set o dripledi y flwyddyn, ond mae 2024 yn dod â record newydd i ni gyda chyfanswm o 29 set o dripledi! Rydyn ni hefyd yn disgwyl 1 set o cwadiau, y cyntaf mewn sawl blwyddyn felly mae llawer o gyffro ar eu cyfer nhw hefyd.
Mae’r defaid sy’n disgwyl efeilliaid yn y sied wyna fawr, wedi eu marcio ag 1 dot gwyrdd ar eu cefnau. Mae’r defaid sy’n disgwyl ŵyn sengl, tripledi a’r cwad yn y sied llai ar ochr arall yr iard ar hyn o bryd a byddant yn cael eu symud unwaith bydd mwy o ŵyn yn cael eu geni a mwy o le ar gael yn y sied wyna fawr.
Rydym yn croesawu cannoedd o blant ysgol i Sain Ffagan a Fferm Llwyn-yr-eos yn ystod y tymor wyna bob blwyddyn, ond rydyn ni’n gwybod fod Sgrinwyna hefyd yn cael ei fwynhau mewn ystafelloedd dosbarth ar draws y wlad, ac mi fydden ni wrth ein bodd yn clywed wrthoch chi! Eleni, byddwn yn lansio her arbennig i ysgolion sy’n gwylio ar-lein – bydd mwy o fanylion am hyn yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf.
I gael mwy o wybodaeth am ein defaid adeg wyna, edrychwch ar y blogiau hyn o flynyddoedd blaenorol:
- Croeso i Sgrinwyna 2022 – Sut beth ywgenedigaeth arferol? | Amgueddfa Cymru
- Sgrinwyna 2021 – Cwestiynau Cyffredin | Amgueddfa Cymru
- Ydych chi’n gorwedd yn gyfforddus? | Amgueddfa Cymru
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau gwylio eto eleni – a chofiwch gadw mewn cysylltiad â ni drwy adael neges ardudalen we Sgrinwyna neu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #sgrinwyna #lambcam
Ydych chi’n mee-ddwl y byd o Sgrinwyna? Cyfrannwch heddiw!