Hafan y Blog

Gweithredu ar y cyd ar gyfer Natur

Penny Dacey, 18 Hydref 2024

Annwyl Cyfeillion y Gwanwyn,

Dyma un o fy hoff adegau o'r flwyddyn! Bydd ysgolion ledled y DU yn gadael y dosbarth i blannu bylbiau fel rhan o Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion. Anfonwyd bwlb crocws a chennin Pedr ar gyfer pob disgybl yn y dosbarth rhestredig i'w blannu ar 21 Hydref (neu'r dyddiad agosaf posib). Edrychaf ymlaen at rannu eu lluniau gwych hefo chi. Rydym yn cynnal Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Diwrnod Plannu bob blwyddyn, felly gwyliwch y Blog Bylbiau hwn i weld y delweddau buddugol a dilyn @Professor_Plant ar X/Twitter i weld yr holl luniau gwych yn cael eu rhannu!

Mae gennym lawer o adnoddau digidol ar y wefan. Mae rhai yn benodol i'r ymchwiliad ond mae'n bosib addasu rhai ar gyfer eich ysgol hyd yn oed os nad ydy'ch yn cymryd rhan eleni. Dyma'r adnoddau sef yn addas at gam hwn o'r ymchwiliad:

Cam 1: Paratoi i plannu (dechrau mis Hydref)

Cam 2: Diwrnod plannu

Cam 3: Gweithgareddau ymarferol dewisol i wneud a'r tywydd a garddio

Cystadleuath Bylbcast

Hwn yr ail flwyddyn i ni gynnal y gystadleuaeth Bylbcast. Mae hon yn dasg hwyliog a chreadigol y gall dosbarthiadau gweithio ar drwy gydol yr ymchwiliad. Gofynnir i'n wyddonwyr ifanc gynllunio, recordio a chyflwyni fideo byr yn archwilio eu hoff rannau o'r ymchwiliad. Mae adnoddau i gefnogi'r dasg hon ar gael fan yma, a bydd yr enillwyr eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn academaidd. Alla i ddim aros i weld beth mae'r meddyliau creadigol eleni  yn cynhyrchu. Tybed faint o ysgolion fydd yn sôn am ddiwrnod plannu yn eu ceisiadau?

Anfonwyd adnodd newydd i'r ysgolion sy'n cymryd rhan eleni, calendr hwyliog sydd wedi'i gynllunio'n arbennig i helpu'r dosbarth i gofnodi eu data tywydd a blodau. Mae hyn yn cynnwys dyddiadau pwysig ar gyfer yr ymchwiliad a strwythur arfaethedig ar gyfer trefnu'r casgliad data. Gall athrawon ddewis i rannu eu dosbarth yn bum grŵp, sydd i gyd yn cymryd eu tro i ddogfennu a uwchlwytho data'r tywydd. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i berchnogi'r ymchwiliad i'r plant. 

Edrychaf ymlaen at rannu datblygiadau ddiweddaraf yr ymchwiliad hefo chi. Rwy'n gobeithio eich bod yn dathlu'r Diwrnod Plannu, wrth i ysgolion ledled y DU ymuno â'i gilydd i blannu dros 18,000 o fylbiau yn y weithred gyfunol hon ar gyfer natur. Gwaith Gwych Cyfeillion y Gwanwyn! 

Athro'r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.