Hafan y Blog

Diwrnod AIDS y Byd 1 Rhagfyr

Mark Etheridge, 27 Tachwedd 2024

Ar 1 Rhagfyr 1994 plannwyd coeden yng Ngerddi'r Orsedd ger Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Plannwyd y goeden ar Ddiwrnod AIDS y Byd 1994 ⁠er cof am bawb sydd wedi marw o AIDS yng Nghymru. Ers ei phlannu mae wedi cael sawl enw gwahanol, gan gynnwys Coeden y Bywyd a Choeden y Rhuban Coch, a dod yn ganolbwynt i ddigwyddiadau cofio Diwrnod AIDS y Byd ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn pan fydd pobl yn clymu rhuban coch i'r goeden.

Plannwyd y goeden gan Mike Phillips a Martin Nowaczek (cyd-sylfaenwyr Cardiff Body Positive), ar y cyd ag Arglwydd Faer ac Arglwydd Faeres Caerdydd. Gollyngwyd balŵn hefyd er cof am bawb sydd wedi marw o AIDS yng Nghymru. Erbyn diwedd 1994 roedd 10,304 achos o AIDS wedi ei gofnodi a 7,019 marwolaeth hysbys yn y DU (roedd 141 or achosion a 118 o'r marwolaethau yng Nghymru).

Wrth siarad am y project, mae Mike yn cofio ⁠"Roeddwn i tua 25 oed pan blannon ni Goeden y Rhuban Coch. ⁠Roedden ni wedi agor canolfan Body Positive Caerdydd y diwrnod cynt, ac roedd Martin yn sâl ac wedi blino. ⁠Bu farw lai na 6 mis yn ddiweddarach."

Cafodd y plac wrth y goeden ei ailgyflwyno yn 2021, a rhoddwyd y plac gwreiddiol i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. ⁠Cafodd ei arddangos yn Sain Ffagan yn 2022/23 fel rhan o arddangosfa Cymru... cofio Terrence Higgins.

Yn ddiweddar cafodd casgliad Body Positive Caerdydd ei roi i Amgueddfa Cymru, ac mae cyswllt agos rhyngddo â'r goeden a blannwyd gan y sylfaenwyr, Mike a Martin, yn 1994.

Sefydlwyd Body Positive Caerdydd yn 1993, yn 57 Heol y Santes Fair. Roedd yn cefnogi pobl yn byw gyda HIV ac AIDS ar draws Caerdydd a de Cymru, ac yn un o nifer o grwpiau Body Positive ledled y DU. Agorodd y ganolfan alw ddiwrnod cyn plannu Coeden y Bywyd, ac yn ddiweddarach dyma nhw'n trefnu 'Dathliad o Fywyd' wrth y goeden i gofio'r bywydau a gollwyd i AIDS ac i ddangos eu cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda HIV/AIDS neu wedi'u heffeithio ganddo. ⁠Mae cylchlythyrau Body Positive Caerdydd yn y casgliad yn cynnwys ysgrifau coffa ar gyfer pobl wnaeth farw o ganlyniad i AIDS yng Nghymru, can gynnwys y sylfaenydd Martin.

Roedd llinell gymorth AIDS Caerdydd hefyd yn bodoli ar y pryd, a rhwydwaith AIDS De Morgannwg. Llinell Gymorth AIDS Caerdydd wnaeth drefnu'r Coffa Golau Cannwyll gyntaf yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 1993 ar risiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle casglodd bron i 600 o bobl i gofio. Cynhaliwyd Coffa Golau Cannwyll eto ar Ddiwrnod AIDS y Byd 1994, ar ôl plannu'r goeden yn y dydd.

Roedd llinell gymorth AIDS Caerdydd hefyd yn bodoli ar y pryd, a rhwydwaith AIDS De Morgannwg. Llinell Gymorth AIDS Caerdydd wnaeth drefnu'r Coffa Golau Cannwyll gyntaf yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 1993 ar risiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle casglodd bron i 600 o bobl i gofio. Cynhaliwyd Coffa Golau Cannwyll eto ar Ddiwrnod AIDS y Byd 1994, ar ôl plannu'r goeden yn y dydd.

Mark Etheridge

Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.