Lleisiau’r Amgueddfa: Siôn Davies-Rollinson – Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli
, 18 Mehefin 2025
Siôn Davies-Rollinson, Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli
Helo Siôn, dywed ychydig am dy hun a dy rôl gydag Amgueddfa Cymru.
Siôn ydw i; fe ymunais ag Amgueddfa Cymru yn 2012 fel rhan o’r tîm Blaen Tŷ yn Sain Ffagan. Ers tair blynedd, dwi wedi bod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Sain Ffagan. Yn y swydd yma dwi’n cefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i weithio gyda’r Amgueddfa ar draws ystod eang o rolau. Un o’r pethau gorau am fy swydd yw dod i nabod ein gwirfoddolwyr amrywiol, a dod i ddeall pam eu bod wedi dewis gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru.
Yn ddiweddar dwi hefyd wedi dod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Big Pit, er mwyn helpu i ddatblygu rhaglen wirfoddoli yno, sy’n gyffrous iawn!
Faint o wirfoddolwyr sydd yna ar draws y safleoedd, a beth maen nhw’n ei wneud?
Mae dros 850 o wirfoddolwyr ar draws Amgueddfa Cymru. Mae 8 o wahanol swyddi gwirfoddoli ar gael yn Sain Ffagan yn unig! Er enghraifft, mae gwirfoddolwyr yr ardd yn helpu i gynnal gerddi hanesyddol y Castell, a gwirfoddolwyr y project llyfrau yn casglu ac yn gwerthu llyfrau ail law i godi arian i’r Amgueddfa. Mae gwirfoddolwyr archwilio yn gofalu am y trolis yn yr orielau, gan roi cyfle i ymwelwyr drin a thrafod rhai o’r casgliadau. Efallai eich bod wedi gweld grwpiau mawr o wirfoddolwyr o’r gymuned yn helpu i baentio ffensys, torri gwrychoedd a gwyngalchu tai. Mae myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn ein helpu ers tair blynedd bellach. Mae’n wych gweld hyder y myfyrwyr yn datblygu trwy wirfoddoli, a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Prosiect Llyfrau dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Sain Ffagan
Rydyn ni wedi gweld hen hetiau glowyr o Big Pit yn cael eu defnyddio fel basgedi crog yn Sain Ffagan – roedden nhw’n wych. Oes projectau tebyg ar y gweill?
Roedd hetiau’r glowyr yn broject difyr, a’r gwirfoddolwyr wedi mwynhau cymryd rhan. Rhoddodd y blodau dipyn o liw i’n Hwb Gwirfoddoli. Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd i hybu cynaliadwyedd, ac ailgylchu deunyddiau.
Yn ddiweddar bu gwirfoddolwyr yn plannu dros 2,000 o fylbiau eirlysiau a chlychau’r gog yn Sain Ffagan. Pan ddaw’r gwanwyn bydd yna lwybr o flodau hyfryd yn ymestyn o Lys Llywelyn i Fryn Eryr. Bydd hyn yn cefnogi gwenyn a pheillwyr eraill, sy’n dibynnu ar flodau cynnar i gael paill a neithdar ar adeg o’r flwyddyn pan fydd blodau’n brin. Cam bach, ond un pwysig iawn i fioamrywiaeth yr ardal.
Beth yw eich hoff broject hyd yn hyn?
Gardd wedi'i hysbrydoli gan y Celtiaid y tu allan i Fryn Eryr, Sain Ffagan
Fy hoff broject i hyd yma yw gardd y gwirfoddolwyr yn Bryn Eryr, Sain Ffagan. Daethom â grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i greu a chynnal gardd Geltaidd fel rhan o dai crwn Bryn Eryr. Mae pedwar gwely i’r ardd, yn tyfu cymysgedd o bys, ffa a phannas, gwahanol berlysiau, ac un gwely ar gyfer planhigion sy’n rhoi lliw. Rydyn ni wedi plannu hadau llin yn ddiweddar, ac yn edrych ymlaen at weld beth ddaw ohonyn nhw.
Dwi’n hoffi bod y project yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr ar y cyfan, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud penderfyniadau ar sut i ddatblygu’r ardd. Rydyn ni’n gobeithio clirio ardal fach yn yr ardd i blannu coed afalau surion y flwyddyn nesaf.
Gardd Bryn Eryr, Sain Ffagan
Sut all pobl wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru?
Mae llawer o ffyrdd i wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Y ffordd hawsaf i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yw ar ein gwefan. Rydyn ni’n hysbysebu ein holl rolau gwirfoddoli ar-lein; gweler fan hyn.
Gall pobl hefyd gofrestru ar ein rhestr e-bost i glywed am gyfleoedd newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â’r tîm gwirfoddoli ar: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.
A’r un cwestiwn ydyn ni’n ofyn i bawb – beth yw eich hoff ddarn yn y casgliadau?
Rhyd y Car, Sain Ffagan
Cwestiwn anodd! Dwi wedi treulio llawer o amser yn gweithio yn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan, ac mae gan bob un ei stori a’i awyrgylch unigryw. Os oes rhaid dewis un – tai teras Rhyd-y-car. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith fod y tai yn llinell amser sy’n dangos newidiadau’r blynyddoedd yn yr ystafelloedd a’r gerddi. Ac mae ymwelwyr wrth eu bodd yn teithio trwy amser wrth ymweld â’r tai. Mae teimlad y tai a’r gerddi yn newid gyda’r tymhorau hefyd, felly mae wastad rhywbeth newydd i sylwi arno.