Archeolegwyr yn yr Amgueddfa Lechi Cymru?
, 5 Ionawr 2026
Dwi'n gwybod, dydi archaeoleg ddim yn rhywbeth sy’n dod i’ch meddwl yn awtomatig wrth feddwl am yr Amgueddfa Lechi! Ond ym mis Rhagfyr, ymunodd tri gwirfoddolwr â ni i gymryd rhan mewn arolygon archeolegol sy'n rhan angenrheidiol ym mhroject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.
Comisiynwyd Archaeoleg Wales i arolygu a chofnodi dwy nodwedd yng ngweithdai Gilfach Ddu, lle mae'r amgueddfa wedi'i lleoli. Oedd angen recordio grisiau 1970au y Ffowndri, a thraciau rheilffordd gwreiddiol y tu allan yn yr iard. Mae arolygon fel hyn yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau rhestredig fel y Gilfach Ddu, ac yn bwysig er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu cofnodi. Bydd grisiau’r Ffowndri yn cael eu newid i rhai mwy hygyrch a diogel, tra bydd y traciau rheilffordd yn cael eu rhoi nôl unwaith y bydd draenio wedi'i osod oddi tanddynt.
Ymunodd tri gwirfoddolwr, Nicola, Donna a Shay, â'r archeolegydd adeiladau Emily i dynnu lluniau o'r nodweddion hyn, a chreu cofnod parhaol tua’r dyfodol. Rhoddodd hyn sylfaen dda o wybodaeth i’r gwirfoddolwyr am archaeoleg adeiladau a sut i arolygu nodweddion trwy dynnu llun a ffotograffiaeth. Rhoddodd hefyd gyfle iddynt ddysgu am ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi a'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud.
DIOLCH Nicola, Donna a Shay!
Cofrestrwch i’n rhestr bostio i glywed am gyfleoedd i wirfoddoli yn yr Amgueddfa Lechi:
Tanysgrifiwch i'r rhestr bostio
Ariennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.
