Hafan y Blog

Data Tywydd ar gyfer Ionawr

Megan Naish, 6 Chwefror 2026

Helo Cyfeillion y Gwanwyn!

Gobeithio eich bod chi gyd wedi mwynhau mis cyntaf 2026 ac wedi parhau i gasglu eich data tywydd ers dychwelyd i'r ysgol! Digwyddodd llawer o bethau cyffrous ym mis Ionawr, fel ein Cystadleuaeth ‘Enwi Cennin Pedr’, a dau o’n Gweithdai Rhithwir newydd. Diolch i bob ysgol a gymerodd ran yn unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ein dau Weithdy Rhithwir olaf, gallwch chi dal archebu lle yma: Gweithdai Rhithwir Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion | Museum Wales. Mae ein Cystadleuaeth ‘Enwi Cennin Pedr’ bellach wedi cau’n swyddogol, felly cadwch lygad allan am y dewisiad enw yn fuan!

Beth am i ni edrych ar ba fath o dywydd a ddaeth i ni ym mis Ionawr?

Dechreuodd mis Ionawr fel mis oer iawn gyda llawer yn profi rhew, iâ ac eira ar draws rhannau o'r DU, gyda'r Alban yn gweld eira 'helaeth' yn cael ei adrodd gan y Met Office.

Yna daeth Storm Goretti â gwyntoedd niweidiol yn enwedig yng Nghernyw ac Ynysoedd Sili, gan achosi'r rhybudd gwynt coch cyntaf ar gyfer 2026! Daeth hefyd ag eira ar draws ardaloedd yng Nghymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De'r Pennines.

Yn ddiweddarach yn y mis, daeth y tywydd yn wlyb ac yn wyntog oherwydd stormydd pellach a gofnodwyd, Storm Ingrid a Storm Chandra, gan ddod â glaw trwm a gwyntoedd cryfion.

Mae rhai ardaloedd o Somerset a Devon wedi profi llifogydd hefyd. Cyrhaeddodd y glaw hwn i Ogledd Iwerddon, lle soniodd y Met Office fod rhai o'r cyfansymiau glawiad misol trymaf wedi'u cofnodi.

Cafodd llawer o'r arsylwadau tymheredd a thywydd hyn eu cofnodi yn eich sylwadau a'ch uwchlwythiadau data, felly gadewch i ni edrych ar beth rydych chi wedi profi!

Sylwadau Tywydd a Thymheredd:

Ysgol Pentreychaf:

Pentreuchaf wedi cael ychydig o eira dydd Llun wythnos yma

Henllys Church in Wales School

Snow, ice wind, rain , storms and sunshine A mixture of weather this week .

Langbank Primary School

It snowed here on Thursday. Our rain gauge was frozen so we had to melt the ice to find the volume of water

St John's Primary School

We were just back to school from the Christmas break. The water in the jug was quite a lot but we think it was because the snow had melted. It was very icy and cold this week coming to school.

Henllys Church in Wales School

Less rain means more playtime

Lammack Primary School

Snow and ice on Monday and Tuesday of this week. Some of our pots were vandalised during the Christmas holidays but we have collected most of the bulbs and will replant them as soon as we can.

Greenburn ASN School

At start of week, we were on an Amber alert for severe weather so not safe for the children to go out to take measurements

Henllys Church in Wales School

it is not as cold as it has been

Pil Primary School

It was very cold this week.

St John's Primary School

There was lots of rain this week. Some schools were closed on Tuesday as there was a storm, but our school was open.

Pil Primary School

It has been very wet this week.

Athro’r Ardd:

Diolch yn fawr iawn am uwchlwytho eich sylwadau gwych a chynnwys manylion a all ein helpu i ddysgu mwy am sut mae gwahanol rannau o'r DU wedi cael eu heffeithio gan y tywydd! Mae'n edrych fel bod llawer ohonoch chi wedi profi'r tywydd oer ac eiraog, gydag Ysgol Gynradd Langbank yn gorfod aros i'w mesurydd glaw toddi cyn cymryd darlleniad!

Mae'r tywydd wedi bod yn arbennig o niweidiol y mis hwn, Ysgol ASN Greenburn, felly rydym yn cytuno'n llwyr mai diogelwch sy'n dod yn gyntaf! Diolch i chi am gymryd yr amser o hyd i ychwanegu hyn at eich sylwadau!

Diweddariadau Bylbiau:

Llanmartin Primary School

Bulb growth now 8.5cm

Mountain Lane Schoo

Lots of shoots appearing for the bulbs A miserable drizzly week.

Langbank Primary School

Most of the bulbs that we planted in the ground are coming through now

We can see shoots from most of the daffodil bulbs in our pots now. Nearly all the bulbs in the ground ar growing and are about 6cm tall. There are no signs of the mystery bulbs and the crocus bulbs yet

Ysgol Gynradd Llandegfan

Mae ein bylbiau dirgel wedi dechrau tyfu.

Athro’r Ardd:

Mae'n anhygoel clywed bod mwy o ysgolion wedi dechrau gweld twf yn eu bylbiau. Daliwch ati i wirio i weld sut maen nhw'n newid dros fis Chwefror, efallai y byddwch chi'n dechrau gweld rhywfaint o flodeuo!

Mae gwybodaeth am sut i adnabod a yw eich planhigion wedi blodeuo ar gael ar y wefan yma: Cam 5: Cadw cofnodion blodau (Ionawr - Mawrth) | Museum Wales, gan y gall fod yn anodd gwybod pryd yw'r amser cywir i ddogfennu'r dyddiad blodeuo.

Efallai y byddwch yn gweld nad yw rhai o'ch planhigion yn barod i flodeuo eto, felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych ddata i'w uwchlwytho hyd yn hyn! Y peth gorau i'w wneud yw parhau i fonitro'ch planhigion yn y cyfamser i weld unrhyw newidiadau.

Ysgolion yn cau!

Mountain Lane School

No results from Monday due to school being closed because of the snow. Lots of snow and on Thursday evening and rain night - we thought we’d be closed but it was just slushy because of the temperature

Rhayader Primary

No records on Monday, Tuesday, Friday, due to INSET and 2 days of snow, so no school.

Ysgol Gymraeg Morswyn

Ysgol ar gau oherwydd rhai staff methu cael i mewn oherwydd eira ochr arall ir ynys. Dim eira yng Nghaergybi.

Plasnewydd Primary

School was closed on Monday and Tuesday because of snow.

Ysgol Gynradd Llandegfan

Oherwydd eira nid oedd yr ysgol yn agored ar y 5ed ar 6ed. Roedd wedi toddi erbyn y 7fed.

Athro’r Ardd:

Peidiwch â phoeni os oedd eich ysgol wedi cau ac nad oedd modd casglu unrhyw ddata; eich diogelwch chi sy'n dod yn gyntaf! Gobeithio eich bod chi i gyd wedi dychwelyd i'r ysgol erbyn hyn, ac yn setlo'n ôl i mewn.

Diolch am eich gwaith caled yn uwchlwytho'r sylwadau hyn er gwaethaf y tywydd!

Da iawn eto Cyfeillion y Gwanwyn am eich gwaith caled dros y misoedd diwethaf, dylech chi fod yn falch iawn ohonoch chi'ch hunain! Daliwch ati, a chawn ni weld beth ddaw nesaf ym mis Chwefror!

Hwyl,

Athro’r Ardd

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.