Brrgggh! Danielle Cowell, 29 Tachwedd 2010 Newid yn y tywydd ers fy adroddiad yr wythnos diwethaf!Mae’r tymheredd wedi cwympo ac mae’r wlad i gyd dan eira. Mae sawl ysgol wedi cau ac mae ysgolion eraill yn cofnodi bod y mesuryddion glaw yn ‘llawn eira’! Roedd Ysgol Gynradd Maesycwmer yn glyfar iawn yn toddi’r eira yn eu mesurydd glaw cyn ei gofnodi! Gwelwch y sylwadau isod.Neithiwr, cofnodwyd y tymereddau isaf erioed am fis Tachwedd. Yng nghanolbarth Cymru, cyrhaeddwyd record o -18C (0F) yn Llysdinam, ym Mhowys. Adroddodd Dr Fred Slater: ‘Rydw i wedi bod yn cofnodi’r tywydd yng Nghanolfan Faes Llysdinam yn ddiwyd ers 30 mlynedd – a neithiwr oedd yr oeraf i fi ei gofnodi.”Os ydych chi’n medru cyrraedd yr ysgol, anfonwch eich canlyniadau ac unrhyw luniau o’r eira sydd gennych.Roedd y Robin haerllug yma yn fy atgoffa i o pa mor llwglyd fydd adar yn ystod y gaeaf. Daeth yn agos iawn ata i yn Sain Ffagan y bore ‘ma. Yn ffodus roedd fy mocs bwyd gyda fi felly rhoddais i ychydig friwsion iddo fe yn gyfnewid am gael tynnu ei lun.Os hoffech chi helpu’r adar y gaeaf hwn cofiwch roi bwyd adar allan yn yr ysgol neu’r ardd. Fe wnes i ychydig o beli braster dros y penwythnos. Roedden nhw’n hawdd i’w gwneud ac yn llawer o sbort.Er mwyn dysgu sut i wneud cacennau adar a peli braster ewch i http://bit.ly/i7mdNNOs ydych chi’n chwilio am le da i wylio adar beth am ymweld â’n cuddfan wylio adar yn Sain Ffagan http://bit.ly/cPGqzzAthro’r Ardd. Danielle Cowell Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC) Cysylltwch â Danielle Cowell sylw - (5) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Ysgol Bro Cinmeirch 29 Tachwedd 2010, 12:07 Roedd yr ysgol ar gau ddydd Gwener oherwydd yr eira mawr felly doedd dim record. Ysgol Cynfran 29 Tachwedd 2010, 11:28 We had a lot of snow and hail on Thursday and Friday Milford Haven Junior School 29 Tachwedd 2010, 11:17 Monday:very cold last night and today Thursday:snow and ice Ysgol Bodfari 29 Tachwedd 2010, 11:16 Although we had no rainfall our rain gauge was full of snow! As usual Monday's rainfall covers the whole weekend. Laugharne VCP School 29 Tachwedd 2010, 11:16 We had heavy snow fall on Friday between 10.00am and 12.00 midday.