Blodyn cyntaf Danielle Cowell, 11 Chwefror 2011 Mae fy nghrocws cyntaf wedi cyrraedd! Does dim ysgolion wedi son am rai eto, ond dwi’n disgwyl y bydd llawer o adroddiadau’n cyrraedd yr wythnos yma.Cyn hir, bydd llawer o flodau yn ymddangos ar y map – yna gallwch chi weld yn union ble mae’r blodau yn agor gyntaf.Cofiwch, mae blodau crocws yn agor tua chanol y bore, ac yn cau erbyn diwedd y dydd. Lawrlwythwch fy syniadau ymchwilio i brofi’r theori gyda’ch blodau crocws chi.Peidiwch â cholli’ch blodau! Os na fydd eich crocws wedi agor erbyn diwedd yr wythnos, ewch â’ch pot adre gyda chi dros wyliau’r hanner tymor. Yna, gallwch chi fwynhau eich blodau a dangos i’r teulu beth rydych chi wedi bod yn ei dyfu.Dydw i ddim wedi derbyn unrhyw gwestiynau’r wythnos hon, ond rydw i wedi cael adroddiadau o flagur gan Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff.Anfonwch luniau o’ch dosbarth chi a’ch blodau ata i!Athro’r Ardd Danielle Cowell Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC) Cysylltwch â Danielle Cowell sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Ysgol Nant Y Coed 17 Chwefror 2011, 15:03 1st crocus 17/02/2011 Ysgol Y Ffridd 17 Chwefror 2011, 14:37 Date of first flower: 2010-02-14 Max height: 100 Ysgol Pencae 16 Chwefror 2011, 15:48 Our shoots are shooting up! We predict the first flower will appear by March 2nd if the weather is mild. Anyone know what the mystery bulb is yet?