Hafan y Blog

Wythnos Hinsawdd 4-10 Mawrth 2013

Catalena Angele, 26 Chwefror 2013

Helo blantos y bylbiau!

Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Hinsawdd wythnos nesaf – amser da i feddwl am newid hinsawdd, sut mae’n effeithio arnon ni a sut allwn ni ofalu am y blaned.

Ers 150 mlynedd mae gwyddonwyr ym mhob rhan o’r byd wedi bod yn mesur tymheredd a glawiad, yn union fel y byddwch chi’n ei wneud wrth ymchwilio i fylbiau’r gwanwyn! Mae’r gwyddonwyr wedi gweld bod tymereddau ar draws y byd yn codi, a bod patrwm glawiad yn newid hefyd.

Gallai tywydd cynhesach a rhagor o law helpu’r crocysau a’r cennin Pedr i dyfu, ond mae cynhesu byd-eang hefyd yn golygu bydd mwy o dywydd eithafol – eira trwm, stormydd, llifogydd a sychder!

Rydyn ni wedi gweld llawer o lifogydd a mwy o eira yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Llynedd, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd taw 2012 oedd yr ail flwyddyn fwyaf gwlyb yn y DU ers dechrau cofnodi, a’r flwyddyn wlypaf erioed yn Lloegr.

Mae nifer o’r gwyddonwyr gorau yn cytuno bod lefelau llygredd yn cyfrannu at gynhesu byd-eang, felly beth allwn ni ei wneud i helpu?

Defnyddio ynni’n effeithiol! Os ydyn ni’n defnyddio llai o ynni, rydyn ni’n creu llai o lygredd. Sut? Gallwn ni wneud pethau bach syml bob dydd i arbed llawer o ynni gartref neu yn yr ysgol. Er enghraifft, mae diffodd y teledu neu’r cyfrifiadur pan fydd neb yn ei ddefnyddio yn arbed llawer o ynni!

Beth arall allwch chi ei wneud i arbed ynni? Beth am drafod yn y dosbarth? Gallech chi hefyd edrych ar y cyflwyniad yma ar gynhesu byd eang – mae rhai syniadau eraill yma am arbed ynni.

Os oes diddordeb gyda chi mewn dysgu beth arall allwch chi ei wneud ar gyfer Wythnos Hinsawdd, ewch i’r wefan.

Eich cwestiynau, fy atebion:

Thorneyholme RC Primary School PP, We were off on Wednesday afternoon, and our mystery blubs are growing.  Prof P: Can you guess what they are yet Thorneyholme or are they still a mystery?

Lakeside Primary Sorry about all the non recorded dates.  Prof P: That’s okay! Sometimes I have to miss a day recording too. Keep up the good work.

Ysgol Capelulo We have not got any flowers yet :(  Prof P: Don’t be sad Ysgol Capelulo, my plants haven’t got flowers yet either… I am sure they will come soon.

RAF Benson Primary School Some our daffodils and crocuses have started growing.  Prof P: That’s great news!

Newport Primary School It has been quite good weather here this week with no rain and some sunshine but the last couple of days have been really cold and quite dull. On Sunday 17th we had an almost spring day and we were all able to get out and have a good time as it was really sunny and felt quite warm.  Prof P: Excellent weather reporting NewportPrimary School! Really detailed, thank you! It has been very cold here in Cardiff too.

Balcurvie Primary School Our big rainfall on Monday was after the half term holiday when it snowed heavily! Great fun for us but not for our poor wee bulbs! Prof P: Sounds like you have been having some extreme weather in Scotland! I am glad you have been enjoying it Balcurvie.

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

Catalena Angele

Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.