Hafan y Blog

Cofnodion blodau 1af yr Alban a Chymru!

Catalena Angele, 5 Mawrth 2013

Llongyfarchiadau i Tulliallan Primary School am anfon cofnodion blodau Bylbiau’r Gwanwyn cyntaf y flwyddyn! Dim ond un diwrnod oedd rhwng dyddiadau blodeuo’r crocysau a’r cennin Pedr, gyda’r crocysau yn blodeuo ar 17 Ionawr a’r cennin Pedr cyntaf yn blodeuo ar 18 Ionawr.

Gan fod yr Alban ymhellach i’r Gogledd na Chymru a Lloegr byddan nhw fel arfer yn cael gaeafau oerach a mwy o eira. Mae hyn yn golygu y bydd planhigion fel arfer yn blodeuo’n hwyrach. Llynedd agorodd y blodau yn gynt yng Nghymru a Lloegr, felly mae’n dipyn o syndod bod y blodau cyntaf eleni wedi ymddangos yn yr Alban! Dyma un o’r pethau gwych am fod yn wyddonydd – gall canlyniadau arbrofion yn aml ein synnu ni!

Yr ail ysgol i anfon eu cofnodion blodau ata i oedd Ysgol Nant Y Coed yn Llandudno. Agorodd crocysau tri o’r plant ar yr un diwrnod, 1 Mawrth. Dyma’r cofnodion cyntaf yng Nghymru, a hynny ar Ddydd G?yl Dewi! Da iawn Ysgol Nant Y Coed!

Ys gwn i ble fydd y blodau nesaf yn agor?

Pan fydd eich blodau chi’n agor, cofiwch anfon eich data ata i. Gallwch chi weld ar y map ble mae’r blodau wedi agor yn barod.

CYNGOR CRAFF

  1. Gall pob disgybl yn y dosbarth anfon eu cofnodion blodau. Mae’r holl ddata fyddwn ni’n ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio i ganfod dyddiad blodeuo cyfartalog pob ysgol. Gwyliwch y siart crocysau a’r siart cennin Pedr i weld y tablau yn newid wrth i fwy o ddata gyrraedd. Mae’n bwysig ofnadwy bod pob disgybl yn anfon eu cofnodion, fel bod y wefan yn gallu cyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog yr ysgol.
  2. Bydd y cennin Pedr yn troi ei ben i lawr ychydig cyn blodeuo. Fydd y blodyn ddim wedyn yn llenwi â d?r ar ôl agor.

Byddwn i wrth fy modd yn gweld lluniau o’ch blodau chi hefyd. Gofynnwch i’ch athro e-bostio unrhyw ffotograffau ata i!

Dyw fy mhlanhigion i yma yng Nghaerdydd heb flodeuo eto. Mae’r blagur ar un o’r crocysau yn dechrau troi’n borffor, felly efallai eu bod nhw ar y ffordd. Mae blagur ar y cennin Pedr hefyd ond mae nhw dal yn wyrdd.

Eich cwestiynau, fy atebion:

St Nicholas Primary School rain gauge stolen. Prof P: Sorry to hear that St Nicholas Primary. I have put a new one into the post for you, I hope it arrives soon.

Ysgol Y Ffridd Glawiad Dydd Llun yn llawn ers y gwyliau. Athro'r Ardd: Mae'n rhaid ei bod hi wedi bwrw hen wragedd a ffyn yn yr ysgol dros y gwyliau! Diolch am roi gwybod i fi.

Milford Haven Junior School Temp in playground was much colder because of the wind chill factor. Prof P: Brrrr! I hope you were all wrapped up warm when you went outside to play.

Ysgol Porth Y Felin to pp we have a problem with one of the plants. It has creamy browny little things in the pot that look like mini shell pastas. We don't know what they are. ysgol porth y felin. Prof P: Gosh, they sound curious. I wonder if they could be the brownish leaves that protect the plant just before the shoots start to grow? Maybe you could take a photo and ask your teacher to send it to me? I might know what they are if I saw them!

Ysgol Nant Y Coed We have buds on the crocus and daffodils now but none of them have opened yet. The mystery bulb has grown the biggest! Prof P: That’s great news! Keep an eye on them and let me know as soon as they open.

Darran Park Primary Mystery plant has grown quite well the rest of the bulbs are slowly growing. Prof P: Thanks for your plant update Darran Park Primary.

Glyncollen Primary School Many thanks for our new rain gauge. You also sent us a new thermometer but on a slip of paper in the box it said St. Mary's. We were wondering if it was meant for us or should we send it back to you? Can you please let us know. The leaves on our flowers are growing well. Bye for now - Yr.4 Prof P: Oops! I sent out two rain gauges on the same day and things must have got mixed up. Sorry Glyncollen. I have emailed your teacher about the thermometer – thanks for letting me know about the mix up.

Greyfriars RC Primary School Dear Professor Plant, we are a bit confused because only one crocus is flowering and only one daffodil is flowering. Prof P: Congratulations Greyfriars School! You are now the second Scottish School to have flowers! You now need to enter you flower data on to the website to make it OFFICIAL! Remember: You can enter flower data as soon the very first flower opens. You record the date it opened and the height of the tallest part of your plant. Then as each new flower opens you can enter its data on the website too – you don’t have to wait until they are all open. Plants grow at different rates – some grow quickly, some take longer to grow - just like children! I am sure your other flowers will 'catch up' soon.

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

Catalena Angele

Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.