Hafan y Blog

Cofiwch anfon eich cofnodion blodau

Catalena Angele, 17 Ebrill 2013

Y dyddiad cau estynedig i chi anfon eich cofnodion blodau ata i yw dydd Gwener 19 Ebrilldydd Gwener yma blantos y bylbiau! Cofiwch anfon eich cofnodion ata i ar y wefan.

Cofiwch hefyd edrych ar y blog bylbiau wythnos nesaf pan fydda i’n cyhoeddi enillwyr y Cystadlaethau! Bydd enillwyr y Gystadleuaeth Tynnu Llun Blodau ac enillwyr y Daith Gweithgaredd Natur yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Llun 22 Ebrill.

Blodau pwy sydd wedi agor yr wythnos hon?

Yng Nghymru, mae Ysgol Gynradd Lakeside, Ysgol Bryn Garth, Ysgol Christchurch ac Rhydypenau Primary School, yn Lloegr Manor Primary School and Coppull Parish Primary School ac yn yr Alban Wormit Primary School i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau. Da iawn a diolch yn fawr i’r ysgolion yma!

Mae tipyn o sôn ar y newyddion yn ddiweddar am yr oerfel a’r eira, a pa mor hwyr mae’r planhigion yn blodeuo eleni.  Oeddech chi’n gwybod taw dyma’r mis Mawrth oeraf ym Mhrydain ers dros 50 mlynedd? Roedd hi’n oerach ym mis Mawrth na misoedd y gaeaf hyd yn oed – Rhagfyr, Ionawr a Chwefror! Does dim rhyfedd bod rhai o’n blodau ni’n hwyr yn agor eleni.

Edrychwch ar wefannau Newyddion y BBC* neu Met Office News* am ragor o wybodaeth am y straeon oerllyd yma.

Ym mis Mawrth, adroddodd papur newydd y Guardian bod planhigion yn blaguro ac yn blodeuo’n hwyr eleni, yn enwedig yn yr Alban, a bod anifeiliaid sy’n gaeafgysgu fel ystlumod, brogaod a madfallod wedi dihuno a mynd yn ôl i gysgu am ei bod hi’n rhy oer!

Yn anffodus, gall tywydd oer arwain at fwy o lygredd yn yr aer*. Byddwn ni’n cynhyrchu mwy o lygredd drwy gynhesu ein tai, ond mae’r awyr oer, llonydd hefyd yn golygu bod gronynnau yn casglu yn yr atmosffer yn lle anweddu neu gael eu chwythu i ffwrdd.

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

*Erthyglau allanol yn Saesneg yn unig

Catalena Angele

Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.