Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013 Catalena Angele, 23 Mai 2013 Ychydig wythnosau yn ôl dyma fi’n cyhoeddi enillwyr a goreuon y Gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr, a nawr gall pawb weld y lluniau gwych ar y wefan!Roeddwn i’n chwilio am ddarluniau botanegol – darluniau gwyddonol o blanhigion. Roeddwn i’n chwilio am luniau prydferth, ond roedd yn rhaid i rannau gwahanol y cennin Pedr fod wedi eu labelu’n glir.Mae’r 1af, 2il a’r trydydd yn ennill pecyn gwylio adar a binocwlars bach. Bydd y goreuon eraill yn derbyn bag o hadau blodau i’r ardd.Cliciwch yma i weld Enillwyr a Goreuon eleni.http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/3956/Diolch yn fawrAthro’r Ardd Catalena Angele Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru Cysylltwch â Catalena Angele Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.