Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: 2005-2013 Canlyniadau Danielle Cowell, 13 Mehefin 2013 Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 3979 a gwblhaodd y prosiect eleni.Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau! Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Diolch yn fawrAthro'r Arddwww.museumwales.ac.uk/scan/bylbiauTwitter http://twitter.com/Professor_PlantFacebook Professor Plant Danielle Cowell Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC) Cysylltwch â Danielle Cowell Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.