Hafan y Blog

Bwrw glaw yn sobor iawn...

Catalena Angele, 21 Chwefror 2014

On’d oedd mis Ionawr yn wlyb a gwyntog gyfeillion y gwanwyn? Dwi’n siŵr ei bod hi wedi bwrw bob dydd! Ond faint o law welson ni, o’i gymharu â’r cyfartaledd?

Mae Gwyddonwyr Tywydd y Swyddfa Dywydd wedi creu’r map yma o’r DU i ddangos faint o law a ddisgynnodd ym mis Ionawr. Gallwch chi gael golwg fanylach drwy ddilyn y ddolen.

Sut wnaethon nhw gyfrifo’r cyfartaledd glawiad? Mae Gwyddonwyr y Swyddfa Dywydd wedi bod yn cadw cofnodion tywydd am amser maith! Dyma nhw’n canfod cyfanswm y glawiad yn Ionawr am 30 mlynedd (rhwng 1981 a 2010) cyn rhannu â 30 i weld cyfartaledd blynyddol y glawiad.

Allwch chi weld y ddau liw glas tywyll? Disgynnodd rhwng dwy a thair gwaith yn fwy o law na’r cyfartaledd yn yr ardaloedd yma yn ystod mis Ionawr? Allwch chi weld yr ardaloedd du yn ne Lloegr a dwyrain yr Alban? Roedd y glawiad yn yr ardaloedd yma dros dair gwaith yn fwy na’r cyfartaledd yn ystod mis Ionawr!

Cyngor craff i ddefnyddio’r map:

  • Mae 100% o’r cyfartaledd yn golygu ei bod hi wedi glawio yr un faint â’r cyfartaledd.
  • Mae 200% o’r cyfartaledd yn golygu ei bod hi wedi glawio ddwywaith cymaint â’r cyfartaledd.

Allwch chi ganfod eich cartref ar y map? Beth yw lliw y map yn eich ardal chi? faint o law ddisgynnodd yn lleol? Oedd mwy neu llai o law na’r cyfartaledd? Efallai y gall eich athro eich helpu i ateb y cwestiynau yma!

Eich cwestiynau, fy atebion:

Gladestry C.I.W. School: Our school was closed on Thursday because of a power cut so our head teacher recorded the results that day. Prof P: We done to your head teacher! I am very glad your head teacher is helping you with your investigation.

St Mellons Church in Wales Primary School: Hello Professor Plant. It has been so windy this week that our thermometer has blown off the wall and broken. We have been using the car thermometer. L, J and L-b. Prof P: Hello L, J and L-b at St Mellons School! I am very sorry to hear that your thermometer is broken, I will email your teacher and arrange to send you a new one. Well done for your quick thinking in using the car thermometer.

Bleasdale CE Primary School: It is very cold and wet. Prof P: I agree Bleasdale School!

Ysgol Gynradd Dolgellau: Yn anffodus mae ein thermometr wedi torri ar ol cael ei chwythu gan y gwynt mawr yn ystod yr wythnos. Athro’r Ardd: Trueni mawr i glywed hyn Ysgol Gynradd Dolgellau. Bydda i’n e-bostio eich athro i drefnu anfon thermomedr newydd atoch chi.

Manor Road Primary School (Lancashire): on Wednesday there was a red weather warning but luckily the plants stayed in place. Prof P: I’m very happy to hear that your plants are okay!

Stanford in the Vale Primary School: It is very rainy here but we are not flooded. Prof P: I am very glad to hear that Stanford! What colour is the rainfall map is your area?

Burscough Bridge Methodist School: The heavy gales have caused the rainfall measurements to be unreadable as the measuring vessel was continually disrupted and blown over. Prof P: Gosh it must have been very stormy. Thanks for letting me know, keep up the good work!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

Catalena Angele

Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.