Blodau i bawb!
14 Mawrth 2014
,Waw gyfeillion y gwanwyn! Mae cymaint ohonoch chi wedi gweld eich planhigion yn blodeuo ers y blog diwethaf! Mae’n rhaid bod meysydd chwarae a gerddi yr ysgolion yn werth eu gweld. Diolch am eich cofnodion blodau i gyd.
Pa ysgolion sydd wedi gweld eu blodau cyntaf?
Mae Ysgol Gynradd St Bernadette yn yr Alban ac Ysgol Gynradd WR Abergwili, Ysgol Gynradd Parc Darran, Ysgol Gynradd CIW Henllys, Ysgol Gynradd WR Llanishen Fach, Ysgol Bro Tawe ac Ysgol Gynradd Dolgellau yng Nghymru i gyd wedi gweld eu blodau cyntaf. Yn Lloegr, mae ysgolion Balshaw Lane Community Primary School, Dallas Road Community School, Golden Hill School, Holy Trinity CE Primary School, Manor Road Primary School, Red Marsh School, St Mary’s Catholic Primary School, St Michaels CE (Aided) Primary School, St Nicholas Primary School and The Blessed Sacrament Catholic Primary School i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau cyntaf. Llongyfarchiadau i chi gyd!
Dim ond 3 wythnos i anfon eich cofnodion
Fyddwch chi’n ennill tystysgrif Gwyddonydd Gwych eleni? Y dyddiad cau i anfon eich cofnodion blodau yw 28 Mawrth. Os byddwch chi’n anfon eich cofnodion tywydd a blodau ata i (os ydyn nhw wedi agor) byddwch chi’n dod yn Wyddonydd Gwych! Bydd pob Gwyddonydd Gwych yn derbyn Tystysgrif a Phensel. Bydd cyfle i chi hefyd ennill Taith Natur neu hadau i dyfu blodau’r haul eich hun!
Ydych chi’n artist? Beth am gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr? 20 Mawrth yw’r dyddiad cau ar gyfer hon hefyd. Rydw i’n chwilio am ddarluniau botanegol – sef darluniau o blanhigion mewn arddull wyddonol. Rwy’n siŵr y gallwch chi dynnu lluniau gwych, ond cofiwch labelu rhannau’r Cennin Pedr yn glir hefyd. Gallwch chi weld yr enillwyr, a’r esiamplau gorau o’r llynedd drwy ddilyn y ddolen hon. Bydd yr enillwyr yn derbyn pecyn gwylio adar gyda binocwlars bach i’r dosbarth, a’r goreuon eraill yn derbyn bag o hadau blodau i’r ardd!
Dyw fy mhlanhigion i mewn potiau yn dal heb flodeuo, ond mae’r crocysau draw yng ngardd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn werth eu gweld. Mae’r gwenyn yn eu mwynhau nhw hefyd y ôl y ffotograff yma! Allwch chi weld bod paill melyn dros gorff y gacynen? Pan fydd e’n hedfan at flodyn arall bydd e’n trosglwyddo’r paill o un blodyn i’r llall – dyma sut mae blodau yn cael eu ffrwythloni!
Eich cwestiynau, fy atebion:
Raglan VC Primary: Still no sign of the flowers this week! We are having some good weather. Prof P: Don’t worry Raglan School, mine haven’t flowered yet either. Hopefully the good weather will help our plants to flower.
Cutteslowe Primary School: Monday 17th - school closed, no heating or hot water. Prof P: Brrrr that sounds very chilly.
Manor Road Primary School (Lancashire): One of are crocus bulbs are starting to flower. Prof P: Fantastic news Manor Road, Congratulations!
Chatelherault Primary School: Wk 10: Most of our plants have started to too grow. It has raining a lot and some snow. Prof P: We didn’t have any snow at all in Cardiff this year, but we did have lots of rain.
The Blessed Sacrament Catholic Primary School: It has been so exciting this week as the buds all suddenly started to appear and on Friday some crocus flowers opened! The daffodils have suddenly grown and we know it won't be long before they too flower. They just love the sunshine! Prof P: Hooray! It’s such a lovely feeling to see your flowers open isn’t it?
Greyfriars RC Primary School: S - ten of our crocuses have budded. Prof P: Great news S. at Greyfriars, I’m sure the other crocuses won’t be far behind.
Dallas Road Community Primary School: Super Fun!!! Prof P: I’m so glad you think so Dallas Road! Science IS Super Fun!
Diolch yn fawr
Athro'r Ardd