Hafan y Blog

Mae blodau Athro’r Ardd wedi agor!

Catalena Angele, 21 Mawrth 2014

Dwi wedi cyffroi yn lân! Mae fy mlodau i wedi agor o’r diwedd, ac mae nhw mor brydferth alla i ddim peidio gwenu wrth edrych arnyn nhw. Blodeuodd y crocws ar 16 Mawrth ac roedd e’n 90mm o daldra. Blodeuodd y cennin Pedr y diwrnod wedyn ac roedd e’n 240mm o daldra. Dyma ffotograff o’r ddau.

Diolch yn fawr i Glwb Garddio Stanford o Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE yn Lloegr am eu ffotograff o’u cennin Pedr cyntaf! Oes unrhyw un arall am anfon ffotograffau o’u planhigion ata i, i fi gael eu rhoi nhw ar y wefan hefyd?

Pa ysgolion sydd wedi gweld eu blodau cyntaf yn agor?

Mae Abronhill Primary School, Culross Primary School, ac Glencairn Primary School yn yr Alban, ac Christchurch CP School, Coleg Meirion Dwyfor, Gladestry C.I.W. School, Rogiet Primary School, Ysgol Clocaenog, Ysgol Gynradd Cross Hands, Ysgol Deganwy ac Ysgol Santes Tudfulyng Nghymru i gyd wedi gweld eu blodau cyntaf. Yn Lloegr, mae ysgolion Arkholme CE Primary School, Burscough Bridge Methodist School, Coppull Parish Primary School, Hillside Specialist School, John Cross CE Primary School, Pinfold Primary School, Scotforth St. Paul's CE Primary School, SS Philip and James CE Primary School, St Laurence CE Primary School ac Woodplumpton St. Anne's Primary School i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau cyntaf. Llongyfarchiadau i chi gyd!

Un wythnos ar ôl…

Dim ond un wythnos sydd ar ôl tan ddyddiad cau project Bylbiau’r Gwanwyn. Cofiwch anfon eich cofnodion ata i erbyn 28 Mawrth.

Beth i wneud os nad yw’r blodau wedi agor erbyn y dyddiad cau?

Daliwch ati i anfon eich data blodau! Os nag yw eich blodau wedi agor, mae croeso i chi barhau â’r ymchwiliad. Pan fydd y planhigion yn blodeuo byddwch chi’n dal i allu cofnodi y dyddiad a’r uchder ar ein gwefan.

Y rheswm am y dyddiad cau yw fy mod i’n ysgrifennu adroddiad arbennig bob blwyddyn yn crynhoi yr holl ddata fyddwch chi’n ei anfon. Rhaid i fi ysgrifennu’r adroddiad ym mis Ebrill. Bydd cofnodion fydd yn cyrraedd cyn y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad eleni. Bydd cofnodion fydd yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hychwanegu at y bas data ac yn cael eu cynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Mae eich cofnodion i gyd yn bwysig iawn. Rwy’n addo y bydd eich data i gyd yn cael ei gynnwys yn y project ac yn helpu i wneud yr ymchwiliad yn fwy cywir yn y dyfodol.

Ydych chi wedi gweld unrhyw arwyddion o’r gwanwyn wrth chwarae? Fe welais i gacynen flewog dros y penwythnos, buwch goch gota ac ŵyn bach! Dyma fi’n edrych mewn llyn ond welais i ddim grifft llyffaint. Ydych chi wedi gweld grifft llyffaint neu unrhyw arwyddion eraill o’r gwanwyn?

Hoffech chi fod yn Dditectif Natur? Mae Coed Cadw wedi paratoi gweithgareddau gwych y gwanwyn ar eich cyfer chi. Dysgwch sut i adnabod arwyddion cyntaf y gwanwyn yma ac am ragor o syniadau gwych y gwanwyn cliciwch yma.

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Bro Eirwg: Roedd y mesurudd glaw yn llawn ar ddydd Llun gan ei fod wedi casglu'r holl law dros hanner tymor. Rydym ni yn gyffrous iawn bod rhai o'r bylbiau wedi dechrau agor. Rydym wedi sylwi bo'r bylbiau sy'n agor yn hwyrach llawer yn llai, oes rheswm am hyn? Athro’r Ardd: Rydw i’n falch iawn bod eich blodau chi yn agor Ysgol Bro Eirwg! Da iawn chi am arsylwi mor ofalus ar y planhigion a gofyn cwestiwn gwyddonol gwych. Yr ateb yw… dwi ddim yn siŵr!! Efallai bod rhai o’r bylbiau yn llai na’r lleill wrth gael eu plannu. Gallai hyn olygu eu bod nhw’n cymryd mwy o amser i flodeuo a’u bod nhw’n llai o faint. Oes gennych chi unrhyw syniadau i’w esbonio? Sut fyddech chi’n profi eich syniadau wrth dyfu rhagor o blanhigion y flwyddyn nesaf?

Raglan VC Primary: Our flowers are blooming now! The shoots are 85 cm tall! Prof P: Do you mean 85mm tall Raglan? An 85cm tall flower would be HUGE!

Glencairn Primary School: It was very foggy on Thursday night and Friday morning! Prof P: Great weather reporting. I love fog, it’s quite spooky isn’t it?

Hillside Specialist School: Our first flower opened. By K. Prof P: Well done K and everyone else at Hillside School.

Greyfriars RC Primary School: It was fun me and R. really enjoyed it. Prof P: Hooray!

SS Philip and James CE Primary: A lot of our crocus flowers had come out over the holidays! Prof P: Fantastic! A lot of people’s flowers opened during the holidays.

Pinfold Primary School: Mystery bulbs started opening on Monday. We think they're daffodils. Other bulbs are growing very well. Prof P: Great news Pinfold.

Ysgol Terrig: our bulbs are growing great they are now 7cm tall !!!!! Prof P: Fantastic news Ysgol Terrig!

Chatelherault Primary School: During the week it has been sunny and because of this our plants has started to blossom although the flowers are still closed. We have had a lot of spiders in our pots. Prof P: Oooh, how cool! I love spiders! Their webs are so beautiful and the way they make them is so clever.

Culross Primary School: We have been very busy in P5-7 recently with trips to Scottish Parliament and also the Foodbank with a collection we organised. Sorry for the lack of records for Tuesday and Thursday! Matt is the name of my daffodil and he was the first one to flower here at Culross PS. It has been quite warm here at Culross and we haven't had any snow, so the daffodils are now beginning to grow. O's crocus is called Coco and measures 50mm. Her’s is the first crocus to flower here at Culross. Well done to O.! Prof P: Wow you sound like you have had some really interesting school trips Culross Primary. Well done for collecting for the Foodbank. I love the names you have given to your plants!

Darran Park Primary: The first crocuses flowered on the 7th of march. Their colour is purple\violet. The bees have already started collecting the pollen and they are 6 cm tall. Some of the other crocus bulbs have only just started to sprout through the soil. Prof P: Great observations Darran Park, I like your description of the crocuses as purple/violet.

Arkholme CE Primary School: Sun shining at last it is doing the flowers a world of good they have come out to see it!!! Prof P: It is doing me the world of good too Arkholme!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

Catalena Angele

Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.