Llwch Llundain
14 Ebrill 2014
,Os oeddech chi yn ymweld â Llundain yr wythnos diwethaf mae’n siŵr eich bod chi wedi sylwi bod yr awyr yn llawn llwch – fel edrych drwy gwmwl brwnt! Ond beth yw mwrllwch, a beth yw’r gwahaniaeth rhyngddo â niwl?
Beth yw niwl?
Cwmwl ar y llawr yw niwl! Llawer o ddiferion dŵr mân yn hofran yn yr awyr yw niwl ac mae’n rhan naturiol o’r tywydd. Mae niwl yn helpu i ddyfrio planhigion ac yn ddiogel i chi ei anadlu i mewn.
Beth yw mwrllwch?
Llygredd aer yw mwrllwch. Mae’n cael ei gynhyrchu wrth i niwl gymysgu â mwg a nwyon cemegol ceir a ffatrïoedd ac mae rhai o’r cemegau yma’n wenwynig! Mae’n niweidio planhigion ac anifeiliaid a gall fod yn beryglus ei anadlu i mewn.
Mae’r mwrllwch diweddar yn Llundain yn gymysgedd o niwl, llygredd a thrydydd cynhwysyn – tywod o’r Sahara! Anialwch anferth yn Affrica yw’r Sahara ac mae peth o’r tywod yno yn fân iawn, iawn fel llwch. Weithiau bydd stormydd gwynt yn codi’r llwch a’i chwythu filoedd o filltiroedd i’r DU. Dyna siwrnai hir!
Yn anffodus, mae’r gymysgedd o niwl, llygredd a llwch yr anialwch yn golygu bod mwrllwch Llundain yn niweidio’r ysgyfaint, ac mae wedi gwneud rhai pobl yn sâl. Mae mwrllwch yn un rheswm da iawn pam y dylen ni i gyd geisio lleihau llygredd aer!
Beth alla i ei wneud i leihau llygredd aer?
Meddyliwch am lygredd aer… beth sy’n ei achosi? Allwch chi feddwl am 3 pheth y gallech chi ei wneud i leihau llygredd aer? Trafodwch yn y dosbarth cyn gwirio eich atebion yma (gwefan Saesneg).
Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am fwrllwch. Dilynwch y ddolen hon.
Eich cwestiynau, fy atebion:
Glyncollen Primary School: Sorry we were late again. We had a busy week as we are going to Llangrannog. We have had great fun doing this investigation. We can't wait to find out who has won the competition. We are going to tell the year3 class about it as they will be doing it next year. Thank you Professor Plant. Yr. 4. Prof P: Hope you had fun at Llangrannog! I am so glad you have enjoyed the investigation Glyncollen. Thank you so much for taking part!
Ysgol Clocaenog: Pen wedi disgyn ffwrdd! Athro'r Ardd: Wedi colli ei ben!
Gladestry C.I.W. School: Although the flowers were open earlier in the week, they have closed up again at the drop in temperature. Prof P: I can tell that you have learnt a lot about your planrs Gladestry, well done!
Diolch yn fawr
Athro'r Ardd