Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2014 Catalena Angele, 27 Mai 2014 Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 4,075 a gwblhaodd y prosiect eleni.Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau! Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Diolch yn fawrAthro'r Arddwww.museumwales.ac.uk/scan/bylbiauTwitter http://twitter.com/Professor_Plant Catalena Angele Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru Cysylltwch â Catalena Angele Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.