Gwyddonwyr Gwych Cymru Catalena Angele, 8 Gorffennaf 2014 O’r chwe deg naw o ysgolion o Gymru a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ysgol Clocaenog o Sir Ddinbych.Dyma’r Gwyddonwyr Gwych lwcus yn ennill trip llawn hwyl i Amgueddfa Lechi Cymru lle dyma nhw’n dysgu am Stori Llechi, yn chwilio am fwystfilod bach ac yn adeiladu nythod anferth yn y chwarel!Athro’r Ardd: “Dyma Ysgol Clogaenog yn gwneud gwaith gwych ar gyfer ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn a nhw anfonodd y mwyaf o ddata tywydd o bob ysgol yng Nghymru! Roedd y gystadleuaeth yn gryf wrth i ysgolion wella eu sgiliau casglu ac anfon data bob blwyddyn. Roedd yn braf cael cwrdd â Gwyddonwyr Gwych Ysgol Clocaenog, a dyma ni’n cael llawer o hwyl yn adeiladu nythod ac yn esgus bod yn adar bach! Dyma ni hefyd yn dysgu llawer am Lechi, a dwi’n credu taw fy hoff foment i o’r diwrnod oedd hollti’r llechi!”Os hoffech chi gymryd rhan yn y project hwn y tymor nesaf, llenwch y ffurflen gais ar-lein: Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais. Catalena Angele Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru Cysylltwch â Catalena Angele Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.