Arddangosiadau Tîm Adeiladau Hanesyddol
17 Medi 2014
,Mae Elan yn gwirfoddoli gyda fforwm ieuenctid Sain Ffagan. Yn ddiweddar, treuliodd Elen amser gydag ein Uned Adeiladau Hanesyddol ac mae wedi ysgrifennu am ei phrofiad isod;
Arddangosiadau Tîm Adeiladau Hanesyddol
Fel rhan o’r arddangosiadau Tîm Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan, es i i Hendre’r Ywydd Uchag i weld saer coed wrth ei waith. Pan gyrhaeddais roedd yn brysur yn gweithio ar ffrâm ddrws ar gyfer y Pentref Oes Haearn newydd gyda phren a oedd o’r safle ac wedi cael ei dorri y bore hwnnw. Roedd rhaid i’r gwaith gael ei wneud gyda llaw heb unrhyw gymorth oddi wrth beiriannau. Roedd e’n fwy na hapus i siarad â ni ynglŷn â’i waith ac i ateb ein cwestiynau. Soniodd ynglŷn â’i hanes proffesiynol, ei fod wedi gwneud NVQ mewn gwaith saer hanesyddol a’i fod newydd orffen ei brentisiaeth ar ôl gweithio yn yr amgueddfa am bum mlynedd. Roedd ei edmygedd tuag at wybodaeth y crefftwyr mwy profiadol yn glir ac roedd yn ymwybodol fod y wybodaeth hon yn dod o brofiad ac nid ar sail cymwysterau.
Esboniodd wedyn sut daethant â’r adeiladau i’r amgueddfa gan ddisgrifio’r cynnyrch terfynol fel ‘flatpack buildings’ wrth iddynt rifo’r holl friciau o amgylch ochrau’r adeilad cyn ei dynnu i lawr a’i ailadeiladu. Defnyddiodd Dŷ Hwlffordd a Gorsaf Drenau Raglan fel esiamplau. Roedd pwysigrwydd cadwraeth yn y broses hon yn eglur wrth iddo sôn mai dim ond tynnu’r hyn sydd angen ei dynnu ffwrdd roedd rhaid gwneud wrth atgyweirio adeiladau. Esboniodd sut byddai datblygiadau newydd sydd ar droed yn Sain Ffagan yn arwain at waith newydd e.e. Palas y Tywysog o Ynys Môn lle bydd rhaid iddynt drin 480kg o bren! Dyma oedd amser gwerth ei dreulio er mwyn deall sut roedd yr adeiladu’n digwydd yn Sain Ffagan.
by Elan Llwyd