‘The Big Garden Birdwatch’
23 Ionawr 2015
,Helo Gyfeillion y Gwanwyn,
Mae yna arolwg gwyddonol cyffrous yn digwydd y penwythnos hwn, ac mae angen eich help chi! ‘The Big Garden Birdwatch’ yw’r enw a’r RSPB - elusen sy’n helpu i edrych ar ôl ein bywyd gwyllt - sy’n trefnu. Gallwch chithau helpu drwy gofrestru ar-lein yma: https://www.rspb.org.uk/birdwatch/. Wedi gwneud hynny, treuliwch awr dros y penwythnos hwn yn cofnodi’r adar sy’n dod i’ch gardd neu lecyn gwyrdd yn agos i’ch cartref. Bydd y pecyn gwybodaeth ar wefan RSPB yn eich helpu i adnabod yr adar! Wedyn, rhowch eich canlyniadau ar wefan RSPB fel eu bod nhw yn gallu eu hychwanegu at yr arolwg mawr cenedlaethol ar boblogaethau adar, sy’n ceisio darganfod mwy am hynt a helynt ein ffrindiau pluog!
Mae’r ‘Big Garden Birdwatch’ wedi bod yn mynd ers 1979! Gallwch ddod o hyd i ganlyniadau blaenorol yma: https://www.rspb.org.uk/birdwatch/previous-results/. Mae arolwg blynyddol a chenedlaethol yn ffordd wych o sylwi ar newidiadau mewn poblogaethau adar. Mae hyn yn bwysig, oherwydd pan fyddwn yn gwybod pa adar sy’n mynd yn brin, gallwn ddod i ddeall pam mae hyn yn digwydd a cheisio helpu’r adar i oroesi. Mae’r ddrudwen yn enghraifft o hyn. Ers i’r ‘Big Garden Birdwatch’ ddechrau yn 1979, mae poblogaeth y ddrudwen wedi lleihau 80%. Mae’r RSPB wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r pethau y gallwn ni wneud i helpu’r adar hyn, fel torri’r lawnt mewn rhannau o’r ardd er mwyn i’r ddrudwen allu cyrraedd eu bwyd, sef trychfilod a phryfed bach sy’n byw yn y pridd.
Dyma rai syniadau ar sut i ddenu adar i’r ardd: http://www.rspb.org.uk/news/387868-top-10-bird-feeding-tips-this-winter. A dyma weithgareddau difyr yn ymwneud ag adar: https://www.rspb.org.uk/birdwatch/family-fun/.
Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal gweithgareddau ‘Big Garden Birdwatch’ y penwythnos hwn! Os ydych chi eisiau ymuno, mae mwy o fanylion yma:
Diolch yn fawr i bawb wnaeth yrru data tywydd ata i yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n edrych ymlaen i weld os yw hi wedi bod yn gynhesach neu’n oerach yr wythnos hon ac os yw hi wedi bwrw eira neu gesair! Cofiwch, os wnewch chi yrru’ch data a gadael i mi wybod ar-lein pan fydd eich planhigion wedi blodeuo, byddwch yn derbyn gwobr Gwyddonydd Gwych a bydd cyfle i chi ennill Taith Natur!
Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn!
Athro’r Ardd