New Life for an Old Bird Lindsey Sartin, 1 Awst 2024 Written by Lindsey Sartin, MA Conservation Practice student, Durham University on Placement at National Museum Cardiff.The Dodo bird was first documented in 1598 on the island of Mauritius in the East Indies, but unfortunately, it became extinct by 1700—before modern taxidermy processes were discovered and used for the preservation of animal specimens. However, some replica taxidermy models exist. One of these is at Amgueddfa Cymru –Museum Wales. The museum purchased it in 1915 from Rowland Ward Ltd. for 15 GBP (roughly the equivalent of 1288 GBP today). The Amgueddfa Dodo—named Dudley by the conservation team—contains information about the discovery, distinction, and documentation of the extinct Raphus cucullatus species, centuries of speculation and research about what the species looked like, the development and cultural fascination with taxidermy, and artistic model-making processes.Before conservation, little was known about Dudley and how it was made. X-radiographs revealed the internal structure of the model, and Fourier Transform Infrared Spectrometry (FTIR) was used to understand the composition of Dudley's feet, face, and dressing (the external parts of taxidermy specimens, including the feathers and skin). X-ray fluorescence (XRF) and scanning electron microscopy with elemental analysis indicated arsenic had been used as a preservative for the skin to prevent pests from consuming it, so extra safety precautions had to be taken when handling Dudley. The analysis results were then compared with Rowland Ward's methods of mounting specimens, described in a book written by Rowland Ward in 1880. Letters between William Hoyle, the Museum Director at the time, and Rowland Ward Ltd also revealed that Dudley had a tail when he first arrived at the museum, but it had since been lost. An image of Dudley dated to circa 1938 also showed it had a tail in the past. All the investigations showed that iron rods make up the skeletal frame in the legs, extend through a wood base made of two boards held together with glue and dowels and are attached to a thin board cut to the shape of Dudley's body. The neck is probably circular and made from a separate board from the body. Dudley's head and feet are plaster, and tempera and oil paints were used to add colour to both parts. A piece of canvas connects the head to the body. The body is stuffed with wool, and the dressing includes real, natural bird skin and feathers (down, contour, and flight feathers). Polyvinyl acetate (PVA) between some toenails indicates that Dudley was conserved sometime after 1930. When the model first arrived at the museum, it should have had a tail with feathers that curved away from the head.Condition Before ConservationBeing over 100 years old, Dudley's skin had become dry and brittle, and many feathers had fallen out particularly around the head, neck and legs. The plaster in the feet was crumbling. A claw was missing from one of the talons, feathers were missing from one of the wings, and the tail was missing. There was also a layer of dust on the entire model. Conservation TreatmentFirst, dust was removed from Dudley with a soft, sable brush towards a low suction museum vacuum. The vacuum nozzle was covered with a fine mesh to ensure no feathers or skin were collected into the vacuum. Then, the plaster on his feet was consolidated with a polyvinyl butyral resin (Buvtar 98) in ethanol. A replacement claw was made with Thibra thermoplastic painted black and adhered with an ethyl methacrylate and methyl acrylate copolymer resin (Paraloid B72). Feathers that had fallen off Dudley in the past were stuck back on with Paraloid B72. New feathers had to be purchased to replace the ones missing from the wing and tail, but the new feathers were bright white and did not match the appearance of the rest. So, acrylic paints were diluted with isopropyl alcohol and airbrushed onto the new feathers. Once dry, the tail feather was curled to the proper shape with steam. All the new feathers were then placed in their proper positions with entomology pins. With an improved appearance and stability, Dudley is now ready to meet the public! Dudley's visit to the conservation lab also allowed the conservation team to learn more about how the model was constructed, which will allow the museum to better preserve it for current and future generations to enjoy.
Diwrnod mewn archeoleg - offer carreg cynhanesyddol Chloe Ward, 1 Mai 2024 gan Sam, Mark, Hannah a Caitlin gwirfoddolwyr Amgueddfa CymruPedwar gwirfoddolwr ydym ni a atebodd yr hysbyseb cyfle gwirfoddoli ar wefan Amgueddfa Cymru, a drefnwyd gan Elizabeth Walker, Prif Guradur yr Amgueddfa. Roedd cyfle i helpu i ddidoli a chatalogio casgliad o offer carreg cynhanesyddol.Daw'r offer o'r casgliad sylweddol a wnaed gan Henry Stopes, casglwr preifat, ar ddiwedd y 19eg Ganrif. Amcangyfrifir bod rhwng 50,000 a 70,000 o arteffactau, gyda hanner miliwn o flynyddoedd o hanes, yn bennaf Prydeinig, ond mae'r casgliad hefyd yn cynnwys rhai gwrthrychau tramor dirgel.Bob dydd Iau, gydag Elizabeth, rydyn ni'n treulio tair awr yn didoli'r blychau, gan rifo a chategoreiddio pob eitem. Mae’n waith cyffrous ac yn aml yn cael ei stopio pan fydd rhywun yn dod o hyd i rywbeth mor anarferol, maen nhw eisiau ei rannu gyda’r grŵp. Megis pen bwyell gaboledig Neolithig, wedi torri ac yna'n amlwg wedi'i hailgylchu neu hyd yn oed bêl gerfiedig Neolithig. Bydd Elizabeth bob amser yn ein helpu i adnabod a chynorthwyo gyda ffeithiau diddorol am yr offer carreg. Wrth i ni weithio rydym hefyd yn cynnal trafodaethau diddorol sydd hyd yma wedi amrywio o Beyonce i Ryfel y Boer; Neanderthaliaid i ffilmiau arswyd Corea! Pwy a wyr beth fydd pynciau'r wythnos nesaf?Rydym ni, fel gwirfoddolwyr, yn teimlo’n ffodus i gael y cyfle hwn i fod yn rhan o’r gwaith amgueddfa ymarferol hwn, i gynnig ein hamser ac i fod yn rhan o’r gwaith o gofnodi casgliad Henry Stopes a fydd yn helpu gydag ymchwil offer carreg yn y dyfodol. Mae’r cyfle hwn yn ffordd ddiddorol o weld sut mae’r tu ôl i’r llenni yn gweithio mewn amgueddfa, ac mae’r wybodaeth a geir yn hynod ddefnyddiol i’n gyrfaoedd ym maes archaeoleg yn y dyfodol. Mae'r swm yr ydym i gyd wedi'i ddysgu o ddim ond 3 awr yr wythnos yn llawer mwy nag y byddem wedi meddwl.Hyd yn hyn rydym wedi didoli, ail-becynnu a dogfennu 4,659 o offer a mewnbynnu 2,265 o gofnodion newydd i gronfa ddata'r casgliad.
Negeseuon Cariad Cyfrinachol: Canfyddiadau Archaeolegol Serchog Elena Johnston, 14 Chwefror 2024 Y llynedd, cafodd 77 canfyddiad ledled Cymru eu hadrodd fel trysor, a phob un dros 300 oed. Fy hoff achosion trysor yw’r rhai sy’n cynnwys gemwaith, yn enwedig modrwyau. Ydy, maen nhw’n eitemau bach hardd, ond maen nhw hefyd yn eitemau personol iawn gyda stori i’w hadrodd bob un.Dwi’n aml yn meddwl am beth ddigwyddodd i’r eiddo gwerthfawr hyn iddyn nhw gael eu canfod yn y ddaear. Efallai wedi’u colli tra’n cerdded drwy gefn gwlad, a’r perchennog ond yn sylweddoli mewn panig llwyr ar ôl cyrraedd adref. Ffrae rhwng cariadon efallai, gyda’r fodrwy yn cael ei thaflu ar draws cae wrth wylltio. Neu gofio anwylyd drwy osod y fodrwy yn rhywle oedd yn arbennig i’r ddau berson.Cariad, mewn un ffordd neu’r llall, yw’r thema cyffredin yn fan hyn, felly i ddathlu dydd Gŵyl San Ffolant, dewch i edrych ar rai o’r modrwyau sydd wedi’u datgan yn drysor yng Nghymru yn ddiweddar. Modrwy arysgrif yn dyddio o ddiwedd y 1600au i ddechrau’r 1700au (achos trysor 21.26 o Gymuned Esclusham, Wrecsam). Mae’r ysgrifen tu mewn yn darllen ‘Gods providence is our inheritance’.Roedd modrwyau arysgrif yn cael eu defnyddio i rannu negeseuon o gariad, ffydd a chyfeillgarwch rhwng y rhoddwr a’r derbynnydd. Roedd gwisgo geiriau cudd yn erbyn y croen yn cynnig cysylltiad teimladwy a phersonol. Modrwy fede neu ddyweddïo aur ganoloesol, wedi’i haddurno â dail a blodau wedi’u hysgythru (achos trysor 21.14 o Gymuned Bronington, Wrecsam).Mae’r arysgrif ar yr ochr allanol yn dweud ‘de bôn cuer’ sef ‘o galon dda’. Mae’r fodrwy yn rhan o gelc o geiniogau a modrwyau yn dyddio yn ôl i Ryfeloedd y Rhosynnau ar ddiwedd y 15fed ganrif. Modrwy aur, yn dyddio o 1712, (achos trysor 19.41 o Gymuned Llanbradach a Phwll-y-pant, Caerffili).Mae arysgrif o’r llythrennau cyntaf A. D. ac E. P. ar bob ochr dwy galon wedi ymuno, gan gynrychioli enwau y cwpl sydd wedi dyweddïo neu briodi. Cofiwch gadw llygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddatganiadau trysor newydd ac ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.https://amgueddfa.cymru/trysor/ Dwi am orffen gydag ambell i gwestiwn cyffredin am Drysor – mae gan bawb syniad o beth yw trysor, ond beth yn union mae’n ei olygu? Sut mae Amgueddfa Cymru yn cymryd rhan mewn datganiadau Trysor?Mae curaduron yn Amgueddfa Cymru yn rhoi cyngor arbenigol ac yn gwneud argymhellion i Grwneriaid ar achosion o drysor o Gymru. Maen nhw’n cymharu canfyddiadau gyda’r diffiniad cyfreithiol o drysor, fel yr amlinellir yn Neddf Trysorau 1996 a Deddf Trysorau 1996: Cod Ymarfer (3ydd Diwygiad) o 2023. Mae gennym ni Swyddogion Canfyddiadau’r Cynllun Henebion Cludadwy yn ein hamgueddfeydd, sy’n cydweithio â’r canfyddwyr, yn aml defnyddwyr datgelyddion metel, sy’n dangos eu canfyddiadau archaeolegol sy’n drysor ac sydd ddim yn drysor, gan eu galluogi i’w cael eu cofnodi a’u hadrodd. Pam mai Crwner sy’n penderfynu ar achosion Trysor?Mae rôl Crwneriaid mewn achosion trysor yn dod o ddyletswydd canoloesol y Crwner fel gwarchodwr eiddo’r Goron, sef y brenin neu’r brenhines o’r cyfnod. Yn y Saesneg Ganoloesol, roedd y gair coroner yn cyfeirio at swyddog y Goron, oedd yn deillio o’r gair Lladin corona, sy’n golygu ‘coron’. Beth sy’n digwydd i ‘Drysor’?Pan gaiff canfyddiadau eu datgan yn drysor gan Grwneriaid, maen nhw’n gyfreithiol yn dod yn eiddo’r Goron. Gall canfyddwyr a thirfeddianwyr hawlio gwobr, fel arfer yn derbyn 50% yr un o’r gwerth masnachol annibynnol a roddwyd ar y canfyddiad trysor. Mae’r Pwyllgor Prisio Trysorau, grŵp penodedig o arbenigwyr sy’n cynrychioli’r fasnach henebion, amgueddfeydd a grwpiau canfyddwyr, yn comisiynu ac yn cytuno ar yr gwerthoedd a roddir ar drysor. Gall amgueddfeydd achrededig sydd â diddordeb gaffael y trysor ar gyfer eu casgliadau ac er budd ehangach y cyhoedd, drwy dalu’r pris a roddwyd ar ganfyddiad.
Rhoddion Rhamantaidd Fflur Morse, 23 Ionawr 2024 Corn buwch wedi'i cherfio, 1758 Heddiw yng Nghymru rydym yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.Gyda diwrnod Sant Ffolant hefyd ar y gorwel, beth am i ni edrych ar rhai o wrthrychau rhamantus y casgliad yn Sain Ffagan, eitemau a roddwyd fel arwydd o gariad. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â’r llwy garu a’i phwysigrwydd yng Nghymru, a gallwch ddysgu mwy amdanynt fan hyn.Ond yn y blog yma, hoffwn edrych ar rai o'r gwrthrychau llai hysbys sy'n gysylltiedig â chariad yn y casgliad, fel Gweiniau Gweill.Teclyn oedd hwn i helpu gweu. Byddai’r wain yn cael ei wisgo ar ochr y corff i ddal gwaelod y waell, gan adael y llaw chwith yn rhydd i weithio’r edau ar y waell arall.Byddai gweiniau gweill wedi ei cherfio, yn aml yn cael ei rhoi fel rhodd a symbol o gariad.Mae’r wain yma wedi ei gerfio gyda'r flwyddyn 1802 a’r enw ‘Thomas Smith’, ac yn debygol wedi'i wneud fel anrheg ac arwydd o gariad. Mae wedi'i addurno â motiff blodyn, calon a physgodyn. Uwchben: Gwain i ddal gwaell, 1802 Gwaelod: Gwain i ddal gwaell, 1754 Mae’r un oddi tano ychydig yn hŷn, wedi ei greu yn 1754. Fel nifer o’r llwyau garu yn y casgliad, mae ganddo beli mewn cawell. Credir bod peli wedi’u cerfio mewn cawell yn cynrychioli’r nifer o blant y gobeithiai’r cerfiwr a’i gariad eu cael.Arfer caru arall oedd cerfio pren staes fel anrheg i gariad.Defnyddiwyd prennau staes gan ferched wrth wisgo staesys (corsedau). Rhoddwyd i lawr canol ffrynt y corsed er mwyn sicrhau bod y gwisgwr yn cadw osgo unionsyth anhyblyg. Roedd prennau staes yn rhodd boblogaidd i roi i gariad, gan ei bod yn cael ei gwisgo mor agos i’r galon. Defnyddir cerfluniau o galonnau, blodau, a symbolau eraill o gariad i’w addurno, yn aml gyda llythrennau cyntaf y ddau gariad.Dyma bren staes o Lanwrtyd, Powys, gyda’r llythrennau RM ac IM arni. Pren staes o Lanwrtyd Y prif symbol sydd i’w gweld ar y pren staes yw’r olwyn. Mae olwynion i’w gweld yn aml ar lwyau caru Cymreig hefyd, a dywedir eu bod yn brawf o addewid y cerfiwr i weithio’n galed ac arwain ei gymar trwy fywyd.Roedd yr arfer o roi rhodd i anwylyd megis pren staes neu lwy garu yn rhywbeth roedd pobl o bob dosbarth mewn cymdeithas yn gallu ei gwneud. Byddent yn defnyddio offer syml fel cyllyll poced gan ddefnyddio deunyddiau oedd wrth law ac yn fforddiadwy.Mae yna amrywiaeth eang mewn steil a dyluniad i bob un o’r rhoddion rhamantus yma, pob un yn unigryw, fel y corn buwch yma wedi'i cherfio ym 1758 yng nghyffiniau Aberystwyth, fel anrheg gan Edward Davis i'w gariad Mary. Corn buwch wedi'i cherfio, 1758 Mae’r rhoddion yma yn taflu goleuni unigryw ar brofiadau emosiynol y perchennog a'r rhai a oedd yn eu caru. Gwrthrychau i'w drysori oeddynt, ond yn perthyn i bobl gyffredin – pobol sydd mor aml wedi cael ei anwybyddu gan hanes. Trwy symbolau, lluniau a llythrennau wedi'u cerfio ar y rhoddion, gawn gip olwg o stori garu, eu gobeithion a’u dyheadau.
Crynodeb o Leoliad Gwaith Archeoleg 2022-23 David Hughes (ar Leoliad Gwaith i Fyfyrwyr), 13 Tachwedd 2023 Mae lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn Amgueddfa Cymru yn gallu bod yn gystadleuol, yn enwedig rhai ym maes archeoleg. Roeddwn wrth fy modd yn cael lle ar leoliad i helpu’r Amgueddfa asesu a chatalogio gweddillion dynol.Gan ymuno â grŵp bach o unigolion ar leoliad, rhai ohonynt yn fyfyrwyr o gwrs Gwyddor Archeolegol Caerdydd, buom yn gweithio ochr yn ochr â’r Curadur i asesu sgerbydau o fynwent ganoloesol gynnar yn Llandochau, ger Caerdydd. Datgelodd y cloddiadau ar ddechrau’r 1990au dros fil o sgerbydau, a rheini wedi bod yn archif Amgueddfa Cymru yn disgwyl archwiliad llawn.Dysgon ni sut mae'n rhaid storio a thrin y sgerbydau yn unol â safonau moesegol ar gyfer delio â gweddillion dynol. Caiff pob sgerbwd ei hasesu'n unigol ar gyfer cyflawnrwydd, ac weithiau mae'n bosib adnabod y rhyw a gweld tystiolaeth o oedran neu afiechydon. Cofnodwyd y wybodaeth i’w gynnwys yng nghatalog yr Amgueddfa, a bydd yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol wrth ymchwilio gweddillion dynol safle Llandochau, a bydd yn cyfrannu at astudiaeth archeoleg ganoloesol yn fwy cyffredinol.Mae archwilio gweddillion dynol yn ysgogi adfyfyrio ar fywydau pobl ganoloesol ac, er efallai nad yw at ddant pawb, mae’n dod â ni’n nes at y gorffennol mewn ffordd arbennig. Roedd y lleoliad gwaith yn brofiad dysgu rhagorol. Roedd y Curadur, Adelle yn amyneddgar iawn gyda’r holl gwestiynau a godwyd ac yn hael wrth rannu ei gwybodaeth a’i sgiliau. Mae’n ffordd wych i Amgueddfa Cymru ymgysylltu â’r cyhoedd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i weld y tu ôl i’r llenni a chyfrannu at waith yr amgueddfa. Rwy'n gobeithio y bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i gynnig cyfleoedd o'r fath i'r rhai a hoffai cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith i fyfyrwyr. Am fwy o wybodaeth am leoliadau gwaith i fyfyrwyr, ewch i dudalennau ‘Cymryd Rhan’ y wefan. Mae modd cofrestru i rhestr bostio i glywed am unrhyw leoliadau pan fyddant yn cael eu hysbysebu.