Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Archebu tocynnau
Ymunwch â ni am fore o sgyrsiau am ddim am y diweddaraf ym myd bywyd gwyllt Cymru.
Bellach yn ei drydedd flwyddyn ar ddeg, mae Cymru Anhysbys yn cynnwys siaradwyr blaenllaw o bob cornel o Gymru, yn siarad am eu canfyddiadau a phrojectau natur diweddaraf.
Gyda diweddariadau gan bobl sy'n gweithio ar y rheng flaen gyda phlanhigion, anifeiliaid, a daeareg, mae yna rywbeth at ddant bawb.
Naill ai ymunwch â ni yn fyw yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, neu gallwch gofrestru i wylio'n rhithiol. Dyma eich cyfle i glywed gan yr arbenigwyr, ac i ofyn eich cwestiynau.
Siaradwyr 2023:
Adfer Eryrod Môr yng Nghymru (Sophie-Lee Williams, Ailgyflwyno'r Eryr Cymru)
Sgwrs wyneb yn wyneb; yn Saesneg
Mae Sophie-Lee yn fiolegydd adar ysglyfaethus ac mae ei hymchwil yn llywio cynlluniau i ailgyflwyno'r adar gwych hyn i'r gwyllt yng Nghymru. Fe wnaeth gwblhau PhD mewn eryrod ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell, Wildfowl and Wetlands Trust, ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Hanes y “Diemwntau Cymreig” (Tom Cotterell, Amgueddfa Cymru)
Sgwrs wyneb yn wyneb; yn Saesneg.
Mae Tom yn Uwch Guradur ac yn arbenigo ar grisialau a mwynau. Mae'n debyg nad ydych chi wedi clywed am ddiemwntau Cymreig, am reswm da - nid oes unrhyw wir ddiemwntau ym Mhrydain! Er hynny, mae "diemwntau Cymreig" hyd yn oed yn fwy diddorol ac mae ganddynt hanes arbennig sy'n mynd yn ôl canrifoedd. Bydd y sgwrs hon yn datgelu popeth.
Taith dywys i fyd y parasitiaid ( Gethin Rhys Thomas, Prifysgol Abertawe)
Sgwrs wyneb yn wyneb; yn Gymraeg
Mae Gethin yn Uwch Ddarlithydd a fydd yn tyrchu i fyd diddorol y parasitiaid, a'u haddasiadau i fynd heibio amddiffyniadau eu cynhalwyr. Mae parasitiaid yn aml yn cael eu hanghofio pan rydyn ni'n ystyried bioamrywiaeth, er eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn cynnal cydbwysedd ecolegol - gallant hyd yn oed herwgipio eu cynhalwyr at ddibenion ysgeler eu hunain!
Trawsnewid fferm ar gyfer natur (James Hitchcock, Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed)
Sgwrs rithwir fyw; yn Saesneg
Bydd James, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, yn ein tywys ni o amgylch Fferm Pentwyn yng nghanolbarth Cymru ac yn dangos sut mae'r fferm da byw hon yn cael ei thrawsnewid yn hafan natur. Bydd yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol a sut yr ymgynghorir â'r gymuned leol a rhanddeiliaid ynglŷn â sut mae'r tir yn cael ei reoli. O dingochiaid i farcudiaid cochion, sut fydd y lle hwn yn cael ei drawsnewid dros y 5, 15 neu 30 mlynedd nesaf?
Plant Atlas 2020: Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu o'r arolwg mwyaf erioed o blanhigion Prydain ac Iwerddon (James Harding-Morris, Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon)
Sgwrs wedi'i recordio ymlaen llaw; yn Saesneg
James yw Rheolwr Cymorth Gwledydd Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon a bydd yn dangos yr atlas planhigion 2020 newydd sbon, yr arolwg mwyaf trylwyr o fflora Prydain ac Iwerddon a fu erioed. Treuliodd miloedd o fotanegwyr 20 mlynedd yn cofnodi planhigion gwyllt a phlanhigion sydd wedi cynefino yma. Gwnaethon nhw gasglu dros 30 miliwn o gofnodion a wnaeth gyfrannu at wefan, llyfr ac adroddiadau cryno Plant Atlas 2020. Beth mae canlyniadau'r arolwg digyffelyb hwn yn ei ddweud wrthym?
Sylwer: mae'r sgwrs hon wedi'i recordio ymlaen llaw felly ni fydd cyfle i ofyn cwestiynau. Bydd cyhoeddiadau sy'n ymwneud â Plant Atlas 2020 ar gael yn Narlithfa Reardon Smith.
Rhagor o wybodaeth
Eryr y Môr, Wester Ross © Mark Hamblin / 2020VISION
“Diemwnt Merthyr” o Flaengarw © Tom Cotterell / Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd