Adnoddau

Am ddim Yn yr ysgol

E-lyfr - Ditectifs y Deinosoriaid

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Chwiliwch am ffosil deinosor, dysgwch am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddwch at ba mor fawr oedd traed T. rex drwy gyfrwng gemau a posau. Mae’n gyfle hefyd i gwrdd â’r deinosor Cymreig newydd, Dracoraptor hanigani.

Lawrlwythwch yr iBook neu’r ffeil PDF ar eich dyfais symudol i ddarganfod mwy. Gallwch ei ddefnyddio adref, neu ddod ag ef i’r Amgueddfa i archwilio’r orielau.

Ditectifs y Deinosoriaid (Fersiwn Apple)

 

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Ditectif yr Amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dilynwch y cliwiau ar y llwybr ditectif hwn i ddarganfod eitemau ardderchog o'r amgueddfa. Bydd chwyddwydr yn eich helpu i weld pethau'n glir.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Fy Hoff Ddeinosor

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dewiswch eich hoff ddeinosor yn yr Oriel Esblygiad Cymru. Tynnwch lun ohono'n ofalus yn y blwch.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.