Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Rhoddwyd cadair Eisteddfod Llanrwst 1951 gan Gymry Patagonia. Cyfrannodd Gymry'r Wladfa werth £80 mewn pesos ar gyfer gwneud y gadair. Ond cadair o Gymru, nid y Wladfa yw hon. Dyluniwyd gan Ellis Berwyn Evans - dyluniad a addaswyd ar gyfer Eisteddfodau eraill yn ystod y 1950au.
Y bardd buddugol oedd Brinley Richards (Brinli). Roedd ei awdl yn disgrifio darlun brawychus o filwyr dau Ryfel Byd yn aflonyddu yn eu beddau am bod yr heddwch yn fregus eto. Dyma gyfnod Rhyfel Corea a'r arbrofion cyntaf gyda'r bom hydrogen.