Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Doll
Doli gŵyr mewn gwisg Gymreig, gyda choesau a breichiau cymalog ac wyneb wedi'i beintio. Mae'n gwisgo pais frethyn, ffedog gotwm glas a gwyn, blows gotwm biws, siôl gotwm lwydfelyn, het Gymreig a boned gydag addurn rhwyllog. O dan hyn mae'n gwisgo pâr o sanau gwlân llwyd, blŵmers cotwm glas tywyll ac esgidiau du â rhuban. Gwnaed gan y Vale of Clwyd Toy Factory, Trefnant. Roedd y cwmni'n cyflogi milwyr clwyfedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny.