Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Darlun o waith nodwydd, tua 1620-40, mewn dwy ran. Y mae'r panel cyntaf o stwmpwaith gyda phen a dwylo'r wraig, y liwt a'r ffrwythau wedi'u gwneud o bren wedi ei orchuddio â sidan gwastad. Gweithiwyd y wisg, y blodau, y plas a'r motifau eraill mewn edau metelaidd a phyrl, a phadio gwlân. Y mae'r addurniadau eraill yn cynnwys gleiniau gwydr, perlau bychain, secwins ac adfachau plu paun. Brodiwyd yr ail banel ag edafedd sidan, mewn pwyth hir a byr yn bennaf, a'r ymyl mewn pwythau satin, conyn, gwastad, hir a byr ac amrywiol ddefnyddiau eraill.