Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Fabric swatch
Sampl o frethyn gwlân coch a gomisiynwyd ar gyfer cadeiriau Arwisgiad 1969. Gwehyddwyd gan David Lewis Cyf, Cambrian Mills, Drefach. Mae’r sampl brethyn yma yn orffenedig, wedi ei drin gyda silicôn a’i grebachu, ac yn dangos lliw coch mwy llachar i’r brethyn cyn ei drin. Cynhyrchwyd 4,600 o gadeiriau ar gyfer seremoni yr Arwisgiad a gynhaliwyd yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Cynhyrchwyd 4,000 o glustogau yn gofroddion i’r digwyddiad hefyd.