Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Radiant Fold (...the Illuminating Gas)

EVANS, Cerith Wyn

Gosodwaith mawr gan Cerith Wyn Evans yw Radiant Fold (…the Illuminating Gas) a gomisiynwyd ar gyfer Amgueddfa Cymru drwy gynllun Great Works y Gymdeithas Gelf Gyfoes. Ceir adlais yma o waith eiconig Marcel Duchamp, The Bride Stripped Bare by Her Batchelors, Even (1915–23). Mae’r pedwar golau neon yn ymgnawdoliad o’r diagramau optegol cyfrin a alwyd gan Duchamp yn ‘dystion yr ocwlt’. Cynhyrchwyd y gwaith yn benodol ar gyfer Oriel 24 yn Adain y Gorllewin, er mwyn chwarae mig â phensaernïaeth fodernaidd yr ystafell a hanes ehangach yr Amgueddfa a’i chasgliadau.

Ganwyd Cerith Wyn Evans yn Llanelli ym 1958. Ers y 1990au mae ei waith wedi canolbwyntio ar gerflunio a gosodwaith sy’n ymdrin â’n dealltwriaeth o iaith a dirnadaeth. Gwelir ei waith mewn nifer o arddangosfeydd rhyngwladol unigol a grŵp, gan gynnwys comisiwn sylweddol ar gyfer Orielau Duveen Tate Britain yn 2017. Cefnogir cynllun Great Works yn hael gan sefydliad Sfumato gyda’r nod o fynd i’r afael â’r diffyg yn amgueddfeydd y DU o waith artistiaid Prydeinig mawr yr 20 mlynedd diwethaf. Radiant Fold (…the Illuminating Gas) yw’r gwaith cyntaf gan Cerith Wyn Evans i gael ei gaffael i gasgliad cyhoeddus yng Nghymru.

Radiant Fold (...the Illuminating Gas)
Delwedd: © Cerith Wyn Evans/Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (16)

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 24928

Creu/Cynhyrchu

EVANS, Cerith Wyn

Derbyniad

Gift, 2018

Mesuriadau

Uchder (cm): 399
Lled (cm): 380
Dyfnder (cm): 520

Deunydd

neon

Lleoliad

In store

Categorïau

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

The Grey and the Pink

WILLIAMS, Lois
NMW A 14914
Mwy am yr eitem hon
Celf

Blaenau Ffestiniog Circle

LONG, Richard
NMW A 24418
Mwy am yr eitem hon
Celf

Base Camp

FINNEMORE, Peter
NMW A 28141
Mwy am yr eitem hon
Celf

Writ Stink

WILLIAMS, Bedwyr
NMW A 24940
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Polisi Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯