Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dadwisgo Crist
Mae'r peintiad hwn yn dangos y foment ddramatig wrth i'r milwyr ddadwisgo Crist i'w groeshoelio. Yn wahanol i'r arfer, mae hyn yn digwydd yn y tywyllwch wrth olau ffagl, a golau'n disgyn o'r nefoedd ar ben Crist drwy fwlch trichornel yn y cymylau. Enw'r artist oedd Domenikos Theotokopoulus. Fe'i ganed yng Nghreta, ond symudodd i Sbaen, lle cafodd ei alw'n 'El Greco' - y Groegwr. Mae'r gwaith brwsh a'r ffurfiau hir a chul yn y darlun hwn yn nodweddiadol o arddull y Darddullwyr, lle mae ffurfiau'n cael eu haflunio i greu effaith ddramatig. Ceir sawl fersiwn o'r gwaith. Y fersiwn gychwynnol o 'Diosg Dillad Crist' yw llun maint llawn yn Eglwys Gadeiriol Toledo, dyddedig 1577-79.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.