Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Roedd y gadair a enillodd Ioan Arfon (John Owen Griffith) ym Methesda ym 1865 yn dilyn dyluniad cadeiriau cyntedd, cefn-tarian ffasiynol y cyfnod. Gwnaethpwyd hi o dderw gydag ymylwaith cerfiedig yn cynnwys symbol syml plu Tywysog Cymru ar ei chrib. Mae'r plac pres ar gefn y gadair yn cofnodi'r digwyddiad - nodwedd cyffredin ar gadeiriau barddol. Yn ystod y 1860au, cyfnod a welodd gryn dwf hefyd mewn eisteddfodau lleol, bu’r Cymmrodorion yn cefnogi Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. O’r cyfnod hwn hefyd y gwelwyd yr arfer o roi cadeiriau yn wobrau i’r beirdd i’w cadw.