Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r ystên hufen iâ drawiadol hon yn rhan o’r service iconographique grec, set addurniadol, fawr o lestri pwdin. Byddai ganddi leinin metel a chaead porslen yn wreiddiol. Mae portread cameo carreg dychmygol wedi’i baentio ar bob ochr – un o Iwl Cesar a’r llall o Alecsander Fawr. Dyluniwyd y gwrthrych gan Alexandre Brachard, cyn ei baentio gan Jean-Marie Degault a’i gildio gan Charles-Marie-Pierre Boitel.