Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Te Parti Plant
Mae'r cyfansoddiad hwn yn darlunio'r un plant ag yn y darlun sy'n gymar iddo, ond bod y bachgen hynaf yn absennol. Mae'r golofn ddrylliedig y tu ôl i'r bachgen sy'n chwarae'r drwm, a'r drych sydd yn nwylo'i chwaer, yn arwyddion o falchder a dirywiad. Ar y dde, mae sbaniel yn dymchwel y bwrdd te, lle mae'r ddwy ferch hynaf a'u dol yn eistedd. Mae'n bosib fod y delweddau hyn, a'r torch o flodau o gwmpas yr wrn, sy'n ein hatgoffa o wrn gladdu, yn awgrymu bod aelod o'r teulu wedi marw.