Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Merch yn ei Heistedd
Bu Alfred Stevens yn astudio ym Mrwsel, lle cafodd ei eni, a symudodd i Baris ym 1844. Yn ystod yr Ail Ymerodraeth enillodd enw iddo'i hun fel peintiwr ffasiynol, gan arbenigo ar ferched crand mewn ystafelloedd moethus. Mae i'r astudiaeth anffurfiol hon o fodel mewn ffrog las ryddid sy'n ein hatgoffa am gyfaill Stevens, Manet. Prynwyd y gwaith gan Margaret Davies ym 1918.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales