Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Yn 2016, cafodd Diana Markosian sgwrs gyda ffoadur ifanc am ei ofn o ddŵr yn dilyn ei daith drawmatig wrth groesi’r môr i gyrraedd Ewrop. Ysgogodd hyn hi i gychwyn astudiaeth o ffoaduriaid ifanc yn goresgyn eu hofnau drwy wersi nofio. Daeth o hyd i hyfforddwr nofio yn nhref Wolfsburg yn yr Almaen a gwnaeth sawl ymweliad dros gyfnod o ddeunaw mis. Mae'r ffotograff hwn yn dangos bachgen ifanc o'r enw Doud yn ceisio mynd i mewn i'r dŵr. Byddai'n gorwedd ar ochr y pwll am gyfnodau hir cyn mynd i mewn. Yn ôl Markosian, roedd gwylio ei hyder yn datblygu drwy gydol y project yn “rhywbeth hyfryd i’w weld”.