Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dylan Thomas (1914-1953)
Cyfarfu'r arlunydd â Dylan Thomas (1914-53) yn Nhafarn Fitzroy, ym 1935 mae'n debyg, a'i gyflwyno i Caitlin Macnamara. Priodwyd y ddau ym 1937. Un o bâr o bortreadau yw hwn gan John. Mae'n debyg iddo gael ei wneud ar ddiwedd 1937 neu ddechrau 1983 pan oedd Thomas a'i wraig yn aros yn nhy^ ei mam yn Swydd Hampshire ger cartref John yn Freyern Court. Cofiai'r arlunydd 'Cytunodd i adael i mi ei beintio ddwywaith, a'r ail bortread oedd y mwyaf llwyddiannus: o roi potel o gwrw iddo, eisteddai yno'n amyneddgar iawn.'