Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Arloesodd a datblygodd Maurice Marinot wydr fel gyfrwng celfyddydol yn y stiwdio. Paentiwr ydoedd yn wreiddiol, un o ‘Anifeiliaid Gwyllt’ y mudiad Fauve yn Ffrainc a gafodd eu henwi oherwydd eu defnydd eofn o liw pur. Cynhyrchai Marinot weithiau unigryw wedi’u cynhyrchu â llaw a heb fowldiau. Byddai’n manteisio ar bob un o sgiliau’r triniwr gwydr, gan chwythu a thrin y gwydr eirias a’i ysgythru ag asid a’i hollti pan yn oer. Byddai’n cau gwydr lliw mewn gwydr clir fel strata daearegol, yn creu effaith iâ wedi hollti drwy drochi gwydr poeth mewn dwr oer, ac yn cyfleu llif dwr drwy reoli swigod aer yn ofalus.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.